Symyd edefyn

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Symyd edefyn

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 31 Mai 2005 1:24 am

Pan fydd rhywyn yn ymateb i sylw – hyd yn oed “can sylw lawr y lein” – i edefyn yr wyf wedi ei ymateb iddi – yr wyf yn cael hysbyseb ebost yn dweud bod ymateb wedi bod – ond pan fo rhywyn yn codi sylw ac yn ei drawsblannu i edefyn arall – does dim hysbyseb.

Dydwyf fi ddim yn gwybod os oes modd newid system “y bwrdd” i nodi bod sylw wedi ei symyd i edefyn arall, ond os oes neu nag oes – onid mater o barch sylfaelol yw i’r sawl sy’n symyd sgwrs i edefyn arall nodi y ffaith bod y sgwrs yn barhau mewn edefyn newydd mewn neges breifat?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan nicdafis » Maw 31 Mai 2005 1:45 am

Fel arfer, os dw i'n hollti edefyn a symud sylwadau i edefyn newydd, dw i'n gadael neges yn yr edefyn gwreiddiol i ddweud mod i wedi wneud hyn. Dw i'n credu bod y cymedrolwyr eraill yn tueddu wneud yr un peth. Gan bod y negeseuon mewn edefyn newydd fyddi di ddim yn cael hysbyseb awtomatig oni bai dy fod di'n rhoi clec ar y peth "Gwylio'r pwnc hwn am ymatebion" sy'n ymddangos ar waelod yr edefyn newydd.

Gobeithio bod hynny yn wneud sens. Dw i braidd yn chwil.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai

cron