Pam ymuno a Maes-e yn wreiddiol?

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A wnaethoch ymuno gyda maes-e am wybodaeth am y sin roc Gymraeg?

Do
9
12%
Naddo
59
81%
Well am gwestiwn stiwpid Guto!
5
7%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 73

Pam ymuno a Maes-e yn wreiddiol?

Postiogan GutoRhys » Gwe 03 Meh 2005 6:44 pm

O ran diddordeb ai ymuno yn wreddiol gyda maes-e am si a gwybodaeth am y Sin Roc Gymraeg a wnaethoch chi? Os ddim "tell me more".
(y rheswm dwin gofyn ydi oherwydd nes i ddim sylweddoli ar y dechrau fod na lawer mwy ir maes)
Rhithffurf defnyddiwr
GutoRhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 192
Ymunwyd: Iau 10 Chw 2005 7:23 pm
Lleoliad: Fry yn y ne, neu ar y llawr

Postiogan Manon » Gwe 03 Meh 2005 6:51 pm

Na. nes i ymuno er mwyn cael trafod Gaz o Rownd a Rownd, ac i ddysgu be' 'di'r peth gora' i'w roi ar dost.

'Dwi'n lyfio maes-e :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan rhy ddiog i cofio fy enw » Gwe 03 Meh 2005 6:58 pm

am y sin roc gymraeg wnes i oherwydd dyna oll oeddwn yn meddwl oedd yr gwefan yma amdan tan i mi ymuno. rheswm nes i ymuno oedd i wbod mwy am y sin roc gymraeg oherwydd oherwydd roedd weddol newydd i'r peth.
Rhithffurf defnyddiwr
rhy ddiog i cofio fy enw
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2066
Ymunwyd: Llun 26 Gor 2004 9:35 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Manag Werdd » Gwe 03 Meh 2005 7:01 pm

Nes i ymuno am bod fi'n clywad amdana fo gen pawb, ac on in licio sharad ar fforyms Susnag so meddwl sa fo'n dda gellu gneud huna yn Gymraeg. Dim byd i neud efo cerddoriaeth sori Guto!
Rhithffurf defnyddiwr
Manag Werdd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 307
Ymunwyd: Sul 15 Mai 2005 4:17 pm
Lleoliad: Ffatri Menyg (Gwyrdd)

Postiogan Sili » Gwe 03 Meh 2005 9:30 pm

Nesi ymuno'n rhannol chos odd Wierdo wedi diflannu ers misoedd ac roedd si ar led fod hi bellach wedi ei gliwio i sgrin y cyfrifiadur efo cyflenwad einioes o goffi wrth ei hochr yn ysgwyd a thuchan "maes-e, maes-e" dan ei gwynt...

Oni hefyd isio ymateb i'r edefyn am Baban Sgwiral pan gafodd o'i agor, a rwan dwi'n hooked, damia chi gyd! Damia chi i uffern ag yn ol!!! Odd genai fywyd cyn darganfod hwn, oni'n berson rhydd! Rwan sbiwch arnai... basdads :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan huwwaters » Gwe 03 Meh 2005 10:37 pm

Nes i ymuno ar ol dipyn dolen o newsgroup Usenet, unai uk.local.north-wales neu soc.culture.welsh.

NEs i ymuno, achos oedd o'n edrych yn ddiddorol. Doedd dim angen bod yn aelod i bostio'r adeg hynny.

Nes i neud ymdrech i teipio lyrics y can Monorail o'r Simpsons, wedyn Nic Dafis yn mynnu ei fod yn cael MP3 unwaith ma'n dod yn ol o rywle.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dai dom da » Gwe 03 Meh 2005 10:43 pm

Dwi'n credu mai'r sin roc cymraeg wedd wedi dylanwadu arno fwya i ymuno, ond hefyd i gal bach o laff a sharad gyda pobol erill cymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Dielw » Sad 04 Meh 2005 12:04 am

Pobl Cymraeg ar yr internet! Siarad fo Cymry! Waw! 5 mlynedd yn ol ni fasa hyn yn bosib. Mae o'n anhygoel/
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan HBK25 » Sad 04 Meh 2005 1:26 am

Wens i ymuno oherwydd eitem ar Bandit misoedd yn ol; gan feddwl efalla 'swn i'n cael trafod pervy obsessions fi am Lisa Gwilym ac Amanda PT. O, a'r SRG hefyd. :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Cawslyd » Sad 04 Meh 2005 10:12 am

Weils i linc o Unarddeg.com, a gyda chliciad, fe ymunais. Y rheswm gwreiddiol oedd fel 'mod i'n gallu sticio gigs fy mand fyny 'na, ond mae'r Maes bellach yn fwy na hynny, wrth sgwrs.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron