Dwi'n siwr mai oherwydd Siffrwd Helyg neshi ymuno. neshim deud dim am tua 6 mis na chofio mod i'n aelod...ond yn sydun dyma fi yma eto un diwrnod.,...a dwi dal yma heddiw!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!
Propaganda Rhys Llwyd - fo nath sôn am y peth. Neshi ymuno nôl yn 2002 hefo fy enw gwreiddiol, ond gan fod y peth 'di mynd yn wbath mor fawr neshi fabwysiadu'r enw cudd yma!
*Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau’r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a’i swyn. . .*
Wnes i ymuno achos bo fi eisiau fod yn rhan or cymuned cymraeg hon (dwi ddim fawr callach or SRG hyd heddiw - oni bai am y ffaith bo fi nawr yn gwybod mai acronym am Sin Roc Gymreic yw hon!!!)
Ymunais ar ol symud allan o Gymru i chwilio am waith...does gen i ddim bywyd rhagor, dwi wedi anghofio bwyta ers 2 fis ac rwyf wedi tyfu barf hir ys gweler ar Gandalf (dwi'n ferch gyda llaw)
If they'd've won her, we wouldn't have heard the end of her ar f'enaid i!
Ffrind i mi ar negesfwrdd arall ddaru sôn am maes-e. Ond y rheswm penaf i mi ymuno oedd i gyfathrebu yn Gymraeg.
Ac mae'n rhaid cyfaddef ei bod hi'n teimlo'n reit gartrefol yma