Nes i gychwyn darllen ar ol i Rhys (nid Llwyd) ddeud wrtha fi am neud, a wedyn nes i gychwyn sgwennu ar ol darllen gymaint o rwtch oedd rhai pobl yn sgwennu yn y seiat gwleidyddiaeth a phenderfynnu fod eu rhoi yn eu lle!
Oddwn i'n arfer postio ar negesfwrdd y Cymry Cwl am gyfnod. Yna wnesh i stopio. Pan wnesh i ail ddarganfod y wefan honno, fe wnes i ddilyn i linc i'w chartref newydd, maes-e.com. Ddy rest us hustori.
Chwiliwch am unrhywbeth cymraeg ar y we a rhywbryd neu gilydd gewch eich tywys i blog Mr Dafis ac wedyn i'r cyswllt rhyfeddol :- maes-e.com dyna fy hanes!
Mi wnes i gofrestru yn wreiddiol (nid dan yr enw hwn) i drafod gwleidyddiaeth. Rhyfedd gweld nad yw'r Twyllwr Rhinweddol wedi trafod dim gwleidyddiaeth bron.