Dilyn dolen o wefan recordiau Fitamin Un (dwi'n methu ffeindio fo rwan) tra'n llwytho MP3 y Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front (oedd yn dda iawn gyda llaw) - ond nid i chwilio am sdwff y SRG yn benodol ddes i draw.
Doedd gen i ddim hydnoed y we yn y ty bryd hynny.
(oedd y faner maes-e ddim yn dweud rhywbeth am Gymru Tropical efo pinafal yn y gornel dop-chwith ar y cychwyn ne jest fi sy di ei freuddwydio?)
nesi ymuno ar ol clywed lot am y lle drwy ffrindiau.Oedd o'n swnio'n le da i gymdeithasu, trafod a chadw mewn cysylltiad a ffrindiau, i gyd yn yr iaith gymraeg, sydd yn beth pwysig iawn, a dyna ydi o!!!