Tudalen 1 o 1

Bobol syn neud gamgymeriadai

PostioPostiwyd: Maw 07 Meh 2005 9:49 pm
gan krustysnaks
mewn teitlau edefau.

Sori am fod yn anal, ond mae na bla o gamgymeriadau sylfaenol yn nheitlau llawer o edefau o gwmpas ar hyn o bryd a wedi bod yn weddol ddiweddar. Dwi'n siwr nad fi yw'r unig un sy'n cael ei gythruddo'n raddol wrth weld y camgymeriadau amlwg yma dro ar ôl tro ac eto.

Ellith pawb fod ychydig yn fwy gofalus wrth ddechrau edefau plis i setlo fy nerfau gramadegol / ieithyddol? Diolch :)

PostioPostiwyd: Maw 07 Meh 2005 10:15 pm
gan nicdafis
Wnes i gywiro rhywbeth ddoe, ddim yn cofio ble - "yn Ghymru" - ond wrth i mi wneud dyma fi'n syweddoli bod dau wall arall yn yr un teitl, jyst ddim pethau sydd mor amlwg. Dw i ddim yn cywiro pethau yn aml, ond mae rhai pethau jyst yn edrych yn sili. Dyw e ddim yn ormod i ofyn i gymryd bach o ofal wrth sgwennu teitl yr edefyn, nag yw?

D.S. dw i ddim (a chymryd dydy KS ddim chwaith) yn disgwyl i bobl bostio negeseuon sy'n berffaith - does gen i ddim gobaith o gyrraedd y safonau yna fy hunan - ond mae teitlau edeifion yn fwy pwysig. Os dwyt ti ddim yn gallu cael hynny'n iawn, pam ddylen ni gymryd yr amser i agor dy edefyn i weld beth sy 'da ti i'w gynnig?

PostioPostiwyd: Llun 27 Meh 2005 7:33 pm
gan sospan fach
Wyt ti di neud y teitl yn anghywir ar bwrpas i fod yn sarcastig, ne fi sy'n dwp a ddim yn deall hiwmor? :? :ofn:

PostioPostiwyd: Llun 27 Meh 2005 7:44 pm
gan dafydd
Tra'n bod ni ar y pwnc, rhywbeth arall sy'n mynd ar fy nerfau yw teitlau edefyn SY'N GWEIDDI.

PostioPostiwyd: Llun 27 Meh 2005 8:43 pm
gan Wierdo
Cytuno. Y peth lleia fysa pawb yn gallu gwneud fysa cychwyn yn dda...digon teg i'r iaith fynd lawr allt wedyn :winc: (dwi'n cyfri'n hun yn hyn cyn i chi feddwl bo fin edrych lawr fy nhrwn arna chi chos dwi'n sylweddoli fod gin i safon iaith gwarthus)

PostioPostiwyd: Llun 27 Meh 2005 8:45 pm
gan nicdafis
Ie, wedi gweld mwy o reiny yn diweddar. Wna i dacluso tipyn bach nawr.

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 4:02 am
gan Hen Rech Flin
Dwedai'm gormod rhag fy mod i'n un o'r pechaduriaid!

Rwyf yn cymedroli 9 o restrau e-bost hel achau ers nifer o flynyddoedd, ac yn danysgrifio i 73 o restrau tebyg. Un o'r pethau yr wyf wedi sylwi, or herwydd, yw bod nifer o'r cyfranwyr yn gwario llawer o amser yn cywreinio eu negeseuon ond yn meddwl am y "pwnc" fel y "peth olaf" cyn danfon.

Wedi gwario eu holl egni ar eu negeseuon maen't yn ddiogi efo'r pwnc ac yn sgwenu rhywbeth llugoer megis "help with my family please" - wel sori - rwyn derbyn 1000+ o e-byst hel achau pob diwrnod a does gen i dim ond yr amser i ddarllen y rhai sydd a phenawdau sy'n ticlo fy niddordeb - a dydy "help with my family" dim yn diclo!

Mae'r un yn wir ar Faes e - pobl yn torri eu boliau dros pethau sydd yn bwysig iddynt, yn rhoi eu holl ddoniau i fewn i'r negeseuon - ond yn meddwl dim am yr hyn sydd yn mynd i wneud i'r credur sy'n clicio ar y botwm "Negeseuon Newydd" agor eu negeseuon i'w darllen.

Sori am bigo ar unigolyn, fel engraifft - ond fe wnaed cyfraniad diddorol a gwerthfawr dydd Sul am ymateb y Cynulliad Cenedlaethol i ddiogelwch plant ar drafnidiaeth cyhoeddys wrth eu hebrwng i'r ysgol - o dan y penawd "wast o wanc" - penawd a oedd yn anhebygol o dynny sylw rhieni a disgbion a oedd a diddordeb yn y pwnc dan sylw!

Dwnim faint o negeseuon sy'n cael ei danfon i Faes E pob diwrnod - degau yn bendant - rwy'n anwybyddu y rhan fwyaf ohonynt. Yr UNIG beth sydd yn mynd i dynny fy sylw at pwnc yw ei benawd . Stim ots faint mor wych yw dy neges, fe caiff ei anwybyddu, onibai bod ei benawd yn tynny sylw. Cofier bydd neges crap efo penawd da yn cael llawer, llawer mwy o sylw na neges da efo penawd gwan.

Mae fy Nghymraeg mor lawn o frychau, fel bod gen i ddim hawl i son a gywirdeb iaith, ond mi wnaf sylw am gywirdeb teipio - os wyt yn son am y cin mewn edefyn ar ar y teulu brenhinol mi wn am bwy yr wyt yn son, o son am gin mewn edefyn gwaith coed mi wn am be ti'n son - ond os ddefnyddia di cin ym mhenawd dy edefyn - does geni ddim syniad am be $3%6 yr wyt yn son.

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 8:59 pm
gan nicdafis
Hen Rech Flin a ddywedodd:Dwnim faint o negeseuon sy'n cael ei danfon i Faes E pob diwrnod - degau yn bendant - rwy'n anwybyddu y rhan fwyaf ohonynt. Yr UNIG beth sydd yn mynd i dynny fy sylw at pwnc yw ei benawd . <b>Stim ots faint mor wych yw dy neges, fe caiff ei anwybyddu, onibai bod ei benawd yn tynny sylw.</b> Cofier bydd neges crap efo penawd da yn cael llawer, llawer mwy o sylw na neges da efo penawd gwan.


Fi sy biau'r duo, ond yr HRF sy biau'r tic bach gwyrdd gen i.

<i>Tynnu sylw</i> oedd 'da fe, gyda llaw. Sôn am ffordd dda o brofi pwynt ;-)