gan nicdafis » Mer 06 Gor 2005 1:08 pm
Wedi symud hyn i'r seiat priodol, a'i ail-agor. Does dim byd 'da fi ddweud wrth Tyrthwr - dw i'n cymryd na fydd llawer o alaru ar ei ôl e - ond dyn ni ddim wedi cael y sgwrs 'ma am sbel, ac efallai mae'n werth cael, er mwyn aelodau newydd sy ddim wedi gweld y sawl sgwrs i'r un diben sy wedi bod ar y maes dros y blynyddoedd.
Mae'r wefan hon yn eiddo breifat, ac mae croeso i unrhywun sy'n fodlon dilyn y <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=10155">canllawiau</a> fod yn aelod ac yn cyfrannu yma. Ond mae gen i, a'r cymedrolwyr, y hawl i olygu, symud neu ddileu unrhyw neges sy'n ymddangos ar y maes. Nid sensoriaeth yw hwn, mae'n synnwyr cyffredin. 'Sen ni ddim yn wneud hyn, byddai'r wefan yn llenwi â rwtsh. Mae rhan helaeth o'r bobl sy'n cyfrannu yma yn derbyn hyn, ac hyd yn oed pan mae rhywun yn anghytuno â phenderfyniad un o'r cymedrolwyr, maen nhw'n barod i drafod y peth mewn ffordd aeddfed. I'r rhai sy ddim, yr unig peth dw i'n gallu awgrymu yw eu bod nhw'n ffeindio gwefan arall, sy ddim yn poeni am bethau fel bod yn ddarllenadwy, neu ddechrau un eu hunain (fel wnes i, pan nad oedd gwefan drafod Gymraeg ei hiaith wrth fy nant i). Yr ymateb ola, i ddyfynnu Tyrthwr yn y neges breifat ges i ganddo jyst cyn i mi ei wahardd, yw "ffyc off".