pogon_szczec a ddywedodd: Mae banio Realydd jyst yn dangos (os nad yw'n amlwg yn barod) angoddefgarwch y Cymry, yn enwedig y Cymry Cymraeg.
Dim ond fe a finnau (ymhlith y rhai sy'n trafod gwleidyddiaeth) sy'n cael ein banio yn gyson.
Tybed paham?
Mae'n dda bo ti'n gofyn y cwestiwn 'tybed pam?'. Ai cwestwin rhethregol yw e?
Falle ddyle ti ofyn y cwestiwn i dy hunan, ac os wyt ti am fod yn onest gyda dy hunan mi ddylet ti gael yr ateb.
Mae Realydd wedi mynd ati i ddinistrio nid yn unig edeifion ond seiadau hefyd, lle mae nifer o aelodau bellach ddim yn boddran ymweld a rhai seiadau achos fod Ret yn trolio ac yn gwrthod darllen cyfraniadau eraill, yn sarhaus, yn hiliol, etc etc Mae felly yn prysur ddinistrio y Maes.
Gwynt teg ar ei ol weda i.