Gwyneddwr / Martin Llewelyn Williams

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Maw 12 Gor 2005 2:53 pm

Fy marn cychwynol i ydi ei bod yn anheg cychwyn trafodaeth o'r fath mewn edefyn am Martin Llywelyn Williams, gan nad oes gan hawl gan neb heblaw meddyg cymwys, gan gynnwys gweinyddwyr maes-e, i ddeiagnosio unrhywun gyda salwch meddyliol.

Dwi'n poeni'n arw fod y pwnc o salwch meddwl wedi codi yng nghyd-destun trafodaeth am un person. Nid yw'n beth i'w gymeryd yn ysgafn a nid oes cyfiawnhad dros ddweud fod gan ddefnyddiwr (na chyn-ddefnyddiwr) y maes salwch meddwl na fyddai dros ddweud 'rwy'n credu fod gan Jo Bloggs AIDS' heb wybod fod hynny o leiaf yn wir a hyd yn oed wedyn dim ond os yw'r person hwnnw yn fodlon i bobl wybod am ei gyflwr.

Byddaf yn hapus o drafod sefyllfa mynediad pobl a salwch meddyliol i fforymau trafod ar y we unwaith fo'r drafodaeth hynny wedi symyd o gyd-destun un person nad ydym yn gwybod dim am ei gyflwr meddyliol a sydd unai yn chwerthin ar ein pennau neu wedi ei frifo gan yr ensyniadau sy'n cael ei wneud amdano yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan mwgdrwg » Maw 12 Gor 2005 3:18 pm

Fysa rhyw fath o ban dros dro wedi bod yn well?

Dyna be dwi'n feddwl eniwe.
Rhithffurf defnyddiwr
mwgdrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 144
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 10:25 am

Postiogan nicdafis » Maw 12 Gor 2005 9:02 pm

Fel dwedais i uchod mae Martin wedi'i wahardd o'r blaen, o dan ei enw ei hun. Ar ôl i mi ei wahardd y tro diwetha, ces i gymaint o negeseuon ebost ganddo oedd rhaid i mi ffiltro fe o fy nghyfrif gmail hefyd, er mwyn fy nghyflwr meddyliol fy hunan. Mae e wedi ei wahardd achos nad yw'n fodlon dilyn canllawiau'r maes.

Mae cwestiwn o beth i'w wneud am berson sydd â phroblemau meddyliol sy'n effeithio ar ei allu cyfathrebu yn un dilys, ond dw i'n cytuno taw nid hwn yw'r lle i'w drafod.

Mr Gasyth a ddywedodd:Byddaf yn hapus o drafod sefyllfa mynediad pobl a salwch meddyliol i fforymau trafod ar y we unwaith fo'r drafodaeth hynny wedi symyd o gyd-destun un person


<a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=13411">Cytunaf</a>.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan dawncyfarwydd » Maw 12 Gor 2005 9:09 pm

O'r nefoedd... Sbiwch hwn...

:x
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan carwyn » Maw 12 Gor 2005 9:15 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:O'r nefoedd... Sbiwch hwn...

:x


ma'r boi yn feirws! :?
os na ddo'n nhw - ddo'n nhw ddim, ac os y do'n mi ddo'n.
carwyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 11:00 pm

Postiogan krustysnaks » Maw 12 Gor 2005 9:27 pm

Och! Mae brethyn pur yr Annedd wedi'i staenio. Gobeithio bydd yr Anneddwyr yn ddigon call i beidio bwydo ar yr abwyd.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Al » Maw 12 Gor 2005 9:29 pm

gall rhywun dweud wrth Steffan mae ganddo y feirws hyn

http://cymdeithas.com/cgi-bin/mt/mt-com ... ry_id=3252

wel diwn amau mae fo dio, man edrych fel ei waith o eniwe.
Al
 

Postiogan Aran » Mer 13 Gor 2005 8:48 am

O'r Annedd, rhag ofn bod unrhyw un yn colli gormod o gwsg wrth feddwl bod gen Martin sensitifrwydd arbennig tuag at iechyd meddwl:

Unwaith eto, 'Nghymru annwyl a ddywedodd:Wedi darganfod y wefan ganlynol: http://www.maes-e.com
SALWCH MEDDYLIOL DIRIFOL IAWN-llwyth o aelodau gyda sgiliau Cymraeg gwarthus.
Rhaid troi Nant Gwrtheyrn yn YSBYTY enfawr ar gyfer pobl sy'n dioddef o'r salwch erchyll yma:
GYMRAEG O SAFON GWARTHUS AR Y DIAWL AR ADEGAU. Mmmm... rhywun wedi darganfod ffisig eto?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan HenSerenSiwenna » Mer 13 Gor 2005 9:03 am

Aran a ddywedodd:O'r Annedd, rhag ofn bod unrhyw un yn colli gormod o gwsg wrth feddwl bod gen Martin sensitifrwydd arbennig tuag at iechyd meddwl:

Unwaith eto, 'Nghymru annwyl a ddywedodd:Wedi darganfod y wefan ganlynol: http://www.maes-e.com
SALWCH MEDDYLIOL DIRIFOL IAWN-llwyth o aelodau gyda sgiliau Cymraeg gwarthus.
Rhaid troi Nant Gwrtheyrn yn YSBYTY enfawr ar gyfer pobl sy'n dioddef o'r salwch erchyll yma:
GYMRAEG O SAFON GWARTHUS AR Y DIAWL AR ADEGAU. Mmmm... rhywun wedi darganfod ffisig eto?


O mi god, dylidd o di gael ei wahardd am hyn gynt! O ni wedi meddwl mai Realydd oedd pawb yn siarad am yn yr ehedyn am salwch meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Mr Gasyth » Mer 13 Gor 2005 9:33 am

Sori i fynd ymlaen am hyn, ond allith pobl plis stopio trafod salwch meddwl yng nghyd-destun unigolion nad ydynt yn eu hadnabod nac yn gwybod dim am eu cig-fywydau na'u cig-iechyd!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron