Fy marn cychwynol i ydi ei bod yn anheg cychwyn trafodaeth o'r fath mewn edefyn am Martin Llywelyn Williams, gan nad oes gan hawl gan neb heblaw meddyg cymwys, gan gynnwys gweinyddwyr maes-e, i ddeiagnosio unrhywun gyda salwch meddyliol.
Dwi'n poeni'n arw fod y pwnc o salwch meddwl wedi codi yng nghyd-destun trafodaeth am un person. Nid yw'n beth i'w gymeryd yn ysgafn a nid oes cyfiawnhad dros ddweud fod gan ddefnyddiwr (na chyn-ddefnyddiwr) y maes salwch meddwl na fyddai dros ddweud 'rwy'n credu fod gan Jo Bloggs AIDS' heb wybod fod hynny o leiaf yn wir a hyd yn oed wedyn dim ond os yw'r person hwnnw yn fodlon i bobl wybod am ei gyflwr.
Byddaf yn hapus o drafod sefyllfa mynediad pobl a salwch meddyliol i fforymau trafod ar y we unwaith fo'r drafodaeth hynny wedi symyd o gyd-destun un person nad ydym yn gwybod dim am ei gyflwr meddyliol a sydd unai yn chwerthin ar ein pennau neu wedi ei frifo gan yr ensyniadau sy'n cael ei wneud amdano yma.