Hen Rech Flin a ddywedodd:Does dim rhaid Maes-e cydymffurfio a Rhan iii o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) a daeth i rym yn 2004. Does dim gorfodaeth ar y Maes i wneud dim i sicrhau bod modd i bobl efo anabledd gwneud defnydd o'r gwasanaeth.
Wedi dweud hynny rwy'n tybio bydda Nic yn dymuno gwneud pob dim o fewn ei allu i sicrhau bod modd i bobl ag anabledd gallu gwneud defnydd o'r safle.
Un o'r pethau gorau i wneud i sicrhau bod pobl sydd yn dioddef â salwch meddwl yn cael profiad teg ar y safle yw trwy beidio a'u sarhau a rhoi enw drwg iddynt. Mae'r awgrym bod pobl sy'n dioddef o salwch meddwl yn methu ymddwyn mewn ffordd resymol na chadw at reolau cwrteisi'r Maes yn hollol annheg; mae'r awgrym bod pobl sy'n ymddwyn yn afresymol neu'n torri rheolau'r Maes yn "sâl eu Meddwl" yn sarhaus.
Cytuno. O ni arfer a gweithio yn cyflon cyfartal fellu dwi deall ins-and-outs y ddeddf newydd sy'n amendio rhan 4 or DDA - sef SENDA. Rwyf yn un or pobl 'Special educational needs' hynnu sy'n cael ei helpu dan y ddeddf gan fod dyslexia gen i, ac mae gen i llawer o ffrindiau hefo Autism, sef, o be dwi'n deall yn fan hyn, y salwch mae rhai o drigolion y maes yn meddwl ella bod y cyn-trigolyn maes-e yn byw hefo ('lives with' - ffordd PC a cywir o drafod salwch/ anableth.)
Y peth gwaetha i bobl hefo anghenion arbennig, yn enwedig Autism, yw cael ei trin yn wahannol oherwydd y salwch - fel bod y rheolau ddim yn aplio iddyn nhw. Mae hyn yn creu fwy o gap rhwngddyn nhw a gweddill cymdeithas ac yn gwneud hi'n fwy a fwy anodd iddyn nhw ddysgu syt i cyd-fyw a llwyddo fel unigolion.
Oes mae angen cydymdeimlo a deall os ydyn nhw yn bihafio chydig yn wahannol. Ond cofiwch, mae pobl hefo autism yn gwybod y gwahaniaeth rhwng iawn a cham, a maen't hefyd yn ymwybodol bo gennyn nhw problemau cyfarthrebu. Dwi'n anheugar iawn or syniad bo'r trigolyn fformally known as ******* yn byw hefo unrhyw salwch meddwl a dwi'n tybio, or ffordd roedd e mor keen i reportio pob dim i Nic, fysa fo di ddatgelu unrhywbeth fel hyn i osgoi cael ei wahardd.