Defnyddio rhithffurf maes-e ar wefanau arall

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Defnyddio rhithffurf maes-e ar wefanau arall

Postiogan nicdafis » Mer 13 Gor 2005 11:02 pm

Jyst edrych ar ystadegau'r maes, a darganfod bod pobl wedi bod yn defnyddio rhithffurfiau o'r oriel yma ar fforymau eraill. <a href="http://altlab.com/hotlinking.html">Ddim yn syniad da</a>, bobl.

Beth dych chi <i>fel</i>?

[Gol. <a href="http://www.deuceofclubs.com/switcheroo/index.html">Rhesymau am beidio wneud hyn</a> - ar wahân i'r un am ddwyn bandwidth. ;-)]
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Al » Iau 14 Gor 2005 7:58 am

Iesu, neshi erioed meddwl am hynny. Diolch am hyna nic.

Pam neith pobl neud copi o'r rhithffurfiadau mae nhw eisiau, wedi ei hostio ar cyfrif Flickr(son am Flickr, mae yna cystadleuaeth ffotograffiaeth yn y cylch ffotograffiaeth wedi agor, go go go) neu image shack, wedyn diom yn dwyn bandwith Nic.
Al
 

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau 14 Gor 2005 8:33 am

erm, sori i swnio'n hollol amature...ond be di rhithffurfiau? :wps:

Mae fyn enw i yr un peth ar fwy na un wefan ond ges i'r llun gan Dafydd. Dwi'm yn siwr be di bandwidth chwaith ond mae gen i syniad bod e ddim yn peyth da iw ddwyn nhw :ofn:

fyddaf yn hynnod o ddiolchgar os byddwch yn fyng nghynghori ar hyn :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Al » Iau 14 Gor 2005 8:42 am

SerenSiwenna a ddywedodd:erm, sori i swnio'n hollol amature...ond be di rhithffurfiau? :wps:

Mae fyn enw i yr un peth ar fwy na un wefan ond ges i'r llun gan Dafydd. Dwi'm yn siwr be di bandwidth chwaith ond mae gen i syniad bod e ddim yn peyth da iw ddwyn nhw :ofn:

fyddaf yn hynnod o ddiolchgar os byddwch yn fyng nghynghori ar hyn :winc:


Rhithffurf:

Delwedd

ironically, dwi di hotlinkio hwna i ddod i fyny yn fana, ond ar maes-e mae o so man iawn.
Al
 

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau 14 Gor 2005 8:46 am

O, fellu mae hi'n iawn i mi ddefnyddio'r llun ar maes-e, cyn belled bo fi ddim yn ei ddefnyddio nille arall? :o
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan lleufer » Iau 14 Gor 2005 12:06 pm

Os nei di arbed y llun mewn ffeil ar dy gyfrifiadur dy hun yna ei lwytho o dy gyfrifiadur i pwy bynnag wefan ti eisiau ei ddefnuddio arno, mae hyn yn iawn. Beth sydd yn creu trafferthion/niwed yw os ti'n dewis defnyddio'r llun ar wefan arall drwy roi linc uniongyrchol o'r llun yn maes-e i'r wefan arall er mwyn ei lwytho.

Gobeithio bo fi'n iawn ac os ydw i bo fi di egluro hyn yn glir. :?:
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau 14 Gor 2005 1:44 pm

lleufer a ddywedodd:Os nei di arbed y llun mewn ffeil ar dy gyfrifiadur dy hun yna ei lwytho o dy gyfrifiadur i pwy bynnag wefan ti eisiau ei ddefnuddio arno, mae hyn yn iawn. Beth sydd yn creu trafferthion/niwed yw os ti'n dewis defnyddio'r llun ar wefan arall drwy roi linc uniongyrchol o'r llun yn maes-e i'r wefan arall er mwyn ei lwytho.

Gobeithio bo fi'n iawn ac os ydw i bo fi di egluro hyn yn glir. :?:


O dwi'n deall rwan - fysa gen i ddim mymryn o obaith o wneud hyn eniwe! Da cael gwybod bo fi ddim yn torri'r rheolau yn 'inadvertently' :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Mali » Sad 16 Gor 2005 1:04 am

Ddim cweit yn siwr os dwi'n deall hwn...ond ydwi'n euog Nic ? :?
Wedi cael fy rhithffurf o safle/fforwm arall , ond pur anaml fyddai'n mynd yno rwan , ac wedi dileu fy rhithffurf o'r fforwm honno .
Euog neu di euog ...
:wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

rhithffurf

Postiogan Elishka » Mer 28 Medi 2005 2:51 pm

Sorri am swnio'n hollol dwp, ond sut mae cael rhithffurf a'i lynu wedyn? A lle dwi'n adio dyfyniad at ddiwedd neges (nid mod i isio gneud hyn bob tro gan ei fod o'n distracting braidd). :?
Rhithffurf defnyddiwr
Elishka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 44
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 4:46 pm
Lleoliad: Wrecsam

Postiogan Dwlwen » Mer 28 Medi 2005 3:40 pm

Helo Elishka.

Ti'n gallu newid dy lofnod a dy rhithffurf wrth bico draw i dy broffeil (chwilia'r blwch glas yng nghornel dop-chwith yr hafanddalen.) Gei di deipio pa bynnag llofnod ti mo'yn (dan rhyw 200 o lythrennau, ife?) a llwytho rhithffurf o'r oriel rhithffurfau. Os ti'n cael trafferth, ma 'na ddudalen cwestiynnau cyffredin fan hyn.

Os wyt ti eisiau llwytho llun o dy gyfrifiadur di fel rhithffurf, ma modd gwneud hynny hefyd - 'ond ei fod yn mesur dim mwy na 80x80 picsel.

Gyda llaw, ma rhywun eisiau dweud helo. Croeso i'r maes :D
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron