Clebryn

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Iau 14 Gor 2005 3:52 pm

Ga'i ofyn cwestiwn gonest plis? Tasa rhyw aelod mwy ymylol a llai 'hard-côr' o faes-e, fel fi a 'nhebyg, wedi cael ein hudo gan y tocyn yma; a fyddai'r Clebryn dal wedi cael ei wahardd?
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Aran » Iau 14 Gor 2005 3:59 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Ga'i ofyn cwestiwn gonest plis? Tasa rhyw aelod mwy ymylol a llai 'hard-côr' o faes-e, fel fi a 'nhebyg, wedi cael ein hudo gan y tocyn yma; a fyddai'r Clebryn dal wedi cael ei wahardd?


Tebyg iawn! Ac wedi cael ei adael nôl i mewn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar ôl trafodaeth, mae'n siwr. Mae rhai yn meddwl bod touting yn llai gwarthus na chychwyn rhyfel... :rolio:

:winc:

Ond tout ydi tout, os ydi'n llwyddo i werthu neu beidio.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Mr Gasyth » Iau 14 Gor 2005 4:00 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Ga'i ofyn cwestiwn gonest plis? Tasa rhyw aelod mwy ymylol a llai 'hard-côr' o faes-e, fel fi a 'nhebyg, wedi cael ein hudo gan y tocyn yma; a fyddai'r Clebryn dal wedi cael ei wahardd?


Dyna sy'n fy mhoeni i hefyd. Ychydig ddyddiau yn ol mi wnaeth aelod 'hard-core' sylw am ddefnyddiwr arall a fyddai, petawn i'n cael fy ffordd, wedi golygu ei anfon i Siberia i rewi yn dragwyddol ar unwaith heb docyn dychwelyd, ond daethpwyd dros hynny gyda neges breifat fach ac eglurhad. Y gor-ymateb ar sail barn personnol cryf un neu ddau o uwch-aelodau ydi'r issue yma. Dylai pawb fod yn gyfartal o dan roelau maes-e neu buan bydd pobl yn dadrithio os oes hierarchiaeth amwlg yn datblygu (ag eithrio Nic wrth gwrs, ein ymerawdwr holl-alluog a di-lychwyn).
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Al » Iau 14 Gor 2005 4:01 pm

Aran a ddywedodd: Mae rhai yn meddwl bod touting yn llai gwarthus na chychwyn rhyfel... :rolio:

:winc:

Ond tout ydi tout, os ydi'n llwyddo i werthu neu beidio.


Dwin amau mae Aran wedi cael ei conio yn llwyr gan tout oblaen a mae y psychological effects yn dechrau dangos :lol:
Al
 

Postiogan Meic P » Iau 14 Gor 2005 4:08 pm

Aran a ddywedodd:Ond tout ydi tout, os ydi'n llwyddo i werthu neu beidio.


Aran, dwi'n trio bod yn resymol yn fan hyn - da ni'n dallt be mae o di neud, a dydi ail-adrodd hynnu drosodd a drosodd ddim yn gwneud o'n waeth nag yn well. Dani hefyd cyrraedd y canlyniad dy fod ti'n casau towtiaid ayyb

Ond ddim dyna di'r pwynt o gwbwl naci?
Ma Mr Gasyth wedi crynhoi pwynt i'r dim trwy ddweud

Mr Gasyth a ddywedodd:Y gor-ymateb ar sail barn personnol cryf un neu ddau o uwch-aelodau ydi'r issue yma.


Bo eich barn personnol chi yn rhwystro - o bosib - datblyiad y maes
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Aran » Iau 14 Gor 2005 4:17 pm

Meic P a ddywedodd:Bo eich barn personnol chi yn rhwystro - o bosib - datblyiad y maes


Wel sori, Meic, a finnau hefyd yn ceisio bod yn rhesymol efo pobl sydd ddim yn touts, ond dwyt ti ddim yn meddwl bo chdi hefyd yn gor-ymateb rwan?

Wnes i ei wahardd, ges i sgwrs efo Nic, wnaethon ni gytuno iddo ddod yn ôl ond i awgrymu ei fod yn dewis enw arall, 'na ni, diwedd y gân.

Dw i ddim yn gweld sut wyt ti'n meddwl bod hynny'n rhwystro datblygiad y Maes?

Ac mae'r dyfyniad gen ti uchod yn ateb uniongyrchol i gwestiwn uniongyrchol gan y Twyllwr Rhinweddol!...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan TomosDafyddDavies » Iau 14 Gor 2005 4:20 pm

Yw Clebryn wedi ei hysbysu o'ch penderfyniad?
TomosDafyddDavies
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Iau 14 Gor 2005 2:39 pm

Postiogan Aran » Iau 14 Gor 2005 4:24 pm

TomosDafyddDavies a ddywedodd:Yw Clebryn wedi ei hysbysu o'ch penderfyniad?


Wel ti yma'n darllen yr edefyn, 'twyt?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Meic P » Iau 14 Gor 2005 4:26 pm

Aran a ddywedodd:
Meic P a ddywedodd:Bo eich barn personnol chi yn rhwystro - o bosib - datblyiad y maes


Wel sori, Meic, a finnau hefyd yn ceisio bod yn rhesymol efo pobl sydd ddim yn touts, ond dwyt ti ddim yn meddwl bo chdi hefyd yn gor-ymateb rwan?


Ok iawn.

Wedi meddwl am y peth, dwi'n sylweddoli nad ydw i'n cymryd i ystyriaeth cymaint o waith sy gennych chi gymerodrolwyr i wneud. ee roedd sbamiwr yn sbamio yn gynharach heddiw ma. Llwyddoch chi i dacluso'r Llanast yn sydyn iawn. Yn ogystal a hyn ma angen ichi weithio yn eich gwaith pob dydd.

Dwi'n sydyn iawn i feirniadu pan dwi'n gweld camgymeriad ond ddim yn eich canmol hanner digon.

Dwi di dweud fy mhwynt digon yn barod.

Dal ati
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan nicdafis » Iau 14 Gor 2005 5:02 pm

Jyst i gadarnhau beth mae Aran yn dweud, ro'n i'n meddwl ei fod e wedi gor-ymateb tipyn bach, a 'swn i wedi gweld yr edefyn yn gyntaf byddwn i wedi ei ddileu, a chael gair bach â Clebryn. Y peth cynta i fi wybod amdano oedd ebost gan "Clebryn" yn cwyno am y gwaharddiad. Fi wnaeth symud yr edefyn i'r Fynwent (h.y. ei ddileu, i bob pwrpas), a fi ddwedodd wrth Clebryn taw'r peth callaf fyddai iddo ail-ymuno o dan enw gwahanol (dylwn i fod wedi awgrymu iddo beidio amddiffyn ei hunan yn yr edefyn hwn efallai, ond chwarae teg, dyw'r boi ddim yn cael diwrnod da).

Dw i'n barod i dderbyn taw camgymeriad oedd y peth ar ei ran e. Mae "towtio yn waeth na rabies" yn fater o farn, ac yn amlwg mae rhai yma â barn cryfach na fi ar y pwnc. Dw i ddim am weld mwy o dowtio ar y maes, ond gan taw hyn yw'r tro cynta iddo ddigwydd mewn 3 blynedd, sa i'n credu ei fod e'n rhywbeth mae angen poeni amdano yn ormodol.

Mae'n anochel y bydd Gweinyddwyr a Chymedrolwyr yn anghytuno â'i gilydd weithiau. Dw i wedi newid fy meddwl sawl gwaith ar ôl trafod pethau fel hyn gyda'r lleill. Does dim drwgdeimlad rhwng fi ac Aran am hyn, a dw i'n fawr gobeithio y gallwn ni i gyd symud ymlaen.

Diolch am dy sylwadau, Meic.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai

cron