Mr Gasyth a ddywedodd: Dylai pawb fod yn gyfartal o dan roelau maes-e neu buan bydd pobl yn dadrithio os oes hierarchiaeth amwlg yn datblygu (ag eithrio Nic wrth gwrs, ein ymerawdwr holl-alluog a di-lychwyn).
Ond dydy'ch ymerawdur holl-alluog ddim cweit mor holl-alluog â hynny - pan ddigwyddodd hyn i gyd, oedd e wilbero dom dan haul tanboeth, heb wybod bod diwedd y byd wedi cyrraedd maes-e. Dyma pam mae gennym gymedrolwyr a pham mae Grwp Llywio yn bodoli, gyda'r un pwerau â fi. Mae Cardi Bach, Barbarella ac Aran yn gallu wneud bron popeth dw i'n gallu wneud ar y maes, a dw i'n ymddiried ynddyn nhw, ac yn ddiolchgar iawn am eu hymroddiad. Hebddyn nhw, y tri ohonyn nhw, dyw e ddim yn debyg y byddai maes-e dal yn bodoli.
Dw i ddim yn deall sut all unrhywun golli'r hiwmor yn sylwadau Aran yn yr edefyn hwn. Wnaeth e dderbyn fod ei ymateb yn llawdrwm, ac mae e wedi chwerthin am ei ben am hyn. Beth wyt ti moyn i mi wneud, gwahrdd un o'r bobl sy'n gyfrifol am gadw maes-e i fynd am ei fod e'n casau towtian?