Clebryn

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Clebryn

Postiogan krustysnaks » Iau 14 Gor 2005 1:27 pm

Dwi ddim yn meddwl fod na ddigon o reswm i'w fanio. Dwi ddim wedi ymwneud mewn llawer o edefynnau gyda Clebryn, dwi ddim yn nabod, ond dwi ddim yn meddwl fod hyn yn deg.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Clebryn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 14 Gor 2005 1:32 pm

krustysnaks a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl fod na ddigon o reswm i'w fanio. Dwi ddim wedi ymwneud mewn llawer o edefynnau gyda Clebryn, dwi ddim yn nabod, ond dwi ddim yn meddwl fod hyn yn deg.


Wel, dyma fe'n cynnig tocynnau, o'r hyn welwn i, am y pris arferol, gan mai debenture sydd gan y boi. Dyma fi ac Aran yn dangos diddordeb. Wedyn dyma fe'n dod nol a dweud, i bob pwrpas, 'o na, bydd rhaid i chi dalu cannoedd os chi moyn y tocynne 'ma oddi wrtha' i'.

Nid marchnad agored yw'r Maes. Os yw e moyn mynd i gael cannoedd am docyn Cymru v Seland Newydd, croeso iddo fe fynd i rywle arall. Roedd e'n amlwg yn ceisio'n chwarae ni yn erbyn yr hyn gai e ar Ebay i'n cael ni i dalu mwy.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan mam y mwnci » Iau 14 Gor 2005 1:33 pm

Onid yw'n erbyn y gyfraith i wrthu'r tocynau am bris uwch?
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan krustysnaks » Iau 14 Gor 2005 1:33 pm

Iawn, digon teg. Cau'r edefyn, anfon neges breifat yn dweud i beidio neud na to, ddim ei fanio fe.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan krustysnaks » Iau 14 Gor 2005 1:35 pm

mam y mwnci a ddywedodd:Onid yw'n erbyn y gyfraith i wrthu'r tocynau am bris uwch?


Oes angen cau cylch Cymdeithas yr Iaith te?
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan nicdafis » Iau 14 Gor 2005 1:37 pm

Mae'r peth yn cael ei drafod.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Clebryn

Postiogan Aran » Iau 14 Gor 2005 2:33 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Os yw e moyn mynd i gael cannoedd am docyn Cymru v Seland Newydd, croeso iddo fe fynd i rywle arall.


Ia, croeso iddo sefyll ar focs yng nghanol yr Hen Arcâd a gweiddi 'tout ydw i, pwy sydd am dalu am fy ngwyliau!' a gweld faint o groeso caiff.

Mae touts fel fwlturiaid, fel pryfaid, fel slefren fôr. Fel clêr y derw a moch y coed.

Y gwiber iddo, yr udfil.

Ei wahardd o'r Maes? Dylai gael ei wahardd o'r wlad!
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan TomosDafyddDavies » Iau 14 Gor 2005 2:50 pm

Win credu eich bod chi wedi bod yn llawdrwm ar Clebryn.

Os edrychwch chi ar ei neges ynglyn ar tocynne, dweud ma fe fod e wedi cael cynnig Cannoedd am par o docynne i'r holl geme prawf!

Ma hynnyn gweithio allan yn ddigon tebyg i'r face value, rhyw £46/50! Dim byd oi le a ny! Dim tout mohono gyfeillion!

Ac oi negeseuon erill, mae e wedi cyfrannu'n adeiladol at sawl edefyn. Fyddwn nin gweld ishe ei gyfraniadau ir edefyn gwleidyddiaeth cymru.

Ac na, nid yw "toutio" tocynne rygbi yn anghyfreithlon. A nid toutio fel y cyfryw oedd y weithred ddiniwed yma ychwaith.

A fel aelod newydd, dwin amau roedd on sylweddoli ei gamgymeriad!

Beth am roi un cyfle arall iddo?
TomosDafyddDavies
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Iau 14 Gor 2005 2:39 pm

Postiogan seren » Iau 14 Gor 2005 2:57 pm

Ai chdi ydi "Clebryn" in disguise?!?
Rhithffurf defnyddiwr
seren
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 247
Ymunwyd: Mer 09 Maw 2005 7:10 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 14 Gor 2005 3:01 pm

Pwynt 1. Fe gynigiais i £42 y tocyn, sef y pris fydd ar flaen y tocyn. Fe ddywedodd e'n ddigon plaen ei fod yn gyfalafwr (h.y. moyn gwneud elw) a'i fod wedi cael cynnig gwell. Er na ddatgelwyd yr union ffigurau, mae hynny'n awgrymu i mi ei fod eisiau gwerthu'r tocynnau am fwy o bris nag sydd ar y tocyn.

Pwynt 2. Mae towtio tocynnau'n anghyfreithlon. Fe welais i'r Heddlu'n cymryd tocynnau oddi ar bobl lan tu fas i Murrayfield eleni. Mae'n dweud yn blaen ar y tocynnau 'not to be resold for higher than face value'.

Pwynt 3. Fi'n cytuno fod y driniaeth o Clebryn wedi bod braidd yn llawdrwm, ond mae ishe gwneud yn glir nad yw hyn yn dderbyniol. Cefnogwyr go iawn sydd wastad yn diodde' yn sgil towts. Gweler faint o arian oedd tocynne ar gyfer gemau Iwerddon a Lloegr 'leni. Crocbris. Mae'n warth llwyr.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai