Cau edefyn bomio Llundain

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 2:07 pm

Cwlcymro a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Dadleuon RET neu'r Gath - twpdra, styfnigrwydd neu sdyrio.

Dadleuon Cwlcymro / Cardi / Hedd / GT / unrhyw Guardian reader arall - y gwir, yr holl wir a dim byd ond y gwir.


Ti'n licio bod yn y victim bach twyt. Pan wti'n ymateb i farb pobl erill yn aml wrth ddeud.............
"Engraifft arall o safon trafod isel"
"Pathetig"
"Diflas"
"Dwi ddim am foddro ymateb i weddill dy ddadl"
"Rant"

ti unai yn sdyrio neu yn arrogant. Oni'n meddwl ma sdyrio odd Dave, ond naci medda fo felly ella ma arrogant ydio hefyd.


Lle mae Dave/RET yn y drafodaeth Cwl?cymro. Fel ddaru fi ddweud, ffeithiol anghywir eto :rolio:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 2:10 pm

Cwlcymro a ddywedodd:
Wedi'r cyfan, pam arall fyddai fy nghyn aelodaeth o PC yn berthnasol i ddadl am 'Israel'?

Ti yn y seiad anghywir gath, Defnyddio Maes-e ydi fama dim Rhyfel a Heddwch.

A'r unig le dwi wedi bod yn ffeithiol anghywir yn siarad efo chdi yn ddiweddar ydi wrth son am restra PR ac os dwi'n cofio'n iawn fy atab i i gael fy nghywiro oedd "I stand corrected".


Nac ydw. Dwi'n credu fod agwedd chdi a GT yn groes i ysbryd y maes gan eich bod yn amlwg yn cyfrannu wrth ymateb i mi nid ar sail yr hyn dwi wedi ddweud ond ar sail fy nghyn aelodaeth o PC.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan eusebio » Gwe 22 Gor 2005 2:14 pm

stopiwch wir Dduw i chi

allwch chi ddim gweld be 'da chi'n ei wneud? Rydych chi'n dinistrio'r edefyn sydd yn ceisio sôn am ddiffygion y seiat gwledyddiaeth trwy wneud union yr un fath yn fan hyn â sydd yn digwydd yn y seiat.

Ffor FFycs Sêcs :rolio:

Mae fel bo adref efio'r plant - fo nath ddechrau - naci hi nath dynnu ngwllt i - naci fo oedd yn trio tri'r telly drosodd ... aaaaarrrrrrrgggghhhhhh :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 2:26 pm

eusebio a ddywedodd:stopiwch wir Dduw i chi



Fe fyddaf yn falch o wneud Eusebio. Fel ddaru ti weld mi'r oedd Cwl wedi nodi cyfraniadau gennyf sydd jyst ddim yn gywir (mae hyd y oed Cwl wedi cyfaddef hynny). Yn anffodus cyn i di 'amddiffyniad di' ddod trwodd yr oeddwn wedi dechrau ymateb.

O hyn allan ni wnaf gyfrannu i'r edefyn hwn, ond byddi cystal a sicrhau nad oes cam argraff yn cael ei roi gan Cwl ag eraill o fy nghyfraniadau.

Chdi ddywedodd nad oeddet yn cyfrannu i'r seiat wleidyddol gan fod yna farn benodol fwyafrifol a gwae ti am fynd yn groes (ee dy amddiffyniad rhannol o Albert Owen a dy honiad y byddai'n cadw'r sedd). Fe ddywedaist fod yna glic o fewn y seiat wleidyddol a dwi'n cytuno. Gwae ti am fynd yn groes.

Mae Cwl a GT o fewn yr edefyn hwn wedi codi fy ymadawiad a PC fel sail i'w hagwedd tuag ataf o fewn y Maes - onid dyna'n union oedd dy bwynt am y clic o fewn y seiat wleidyddol? Nid dy farn ar bwnc penodol sy'n cyfrif ond dy 'world view'. I GT a Cwl mae digwyddiadau pum mlynedd yn ôl tu fas i Faes E dal yn llywio ymateb y ddau i fy nghyfraniadau.

Pam?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Gwe 22 Gor 2005 2:27 pm

Lle mae Dave/RET yn y drafodaeth Cwl?cymro. Fel ddaru fi ddweud, ffeithiol anghywir eto


Dadleuon RET neu'r Gath - twpdra, styfnigrwydd neu sdyrio.

Oni'n meddwl ma sdyrio odd Dave, ond naci medda fo felly ella ma arrogant ydio hefyd.


Mi odd yr eshamplau yna yn dangos be sy'n gwneud i fi alw rhywun yn sdyrar neu yn arrogant. Mi odda nhw wedi ei cymeryd o be wti neu Dave wedi bod yn ddeud. Ella nad oedd hynny'n glir, os felly sori.

A Gath, dwi ddim yn ymatab yn wahanol i chdi o achos be ddigwyddodd 5 mlynadd yn ol. Dio ddim yn poeni fi un bit be ydi oedd/ydi dy ideoleg wleidyddol di. Dwi erioed wedi deud mod i'n ymatab yn wahanol i chdi o achos hyny.

Sori Eusebio (a pawb arall sydd yn trio cal trafodaeth gall yn yr edefyn yma), dwi wir yn. Dwi di trio peidio gwylltio efo'r gath am bythefnos gyfa ond dwi ffainali wedi methu. Dwi oddi cartra am rhyw bythefnos rwan eniwe, ella allai ddiodda'r boi pan dwi'n nol.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan eusebio » Gwe 22 Gor 2005 2:30 pm

Yn union CD - nes i erioed fynd yn ôl i'r seiat wleidyddol wedi fy asasinasiaeth (gair gwneud ;) ) am amddiffyn Albert, er mai fi oedd yn iawn ;) ...

... mae GT a thithau yn dadlau am semantics a phethau sydd wedi/yn digwydd yn y cigfyd a phetahu mae'n amhosib i aelodau eraill y maes drafod - heb sôn am iddo fod yn ffwcedig o ddiflas.

Petawn yn cael moratoriwm i drafod pethau sydd yn cael eu dweud ar y maes yn unig yn hytrach na be ddydodd GT wrtha ti yn Nghaernarfon chwe mlynedd yn ôl neu beth ddydes di wrth GT ar y stepen drws blwyddyn a hanner yn ôl byddai'n ddechrau da ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan GT » Gwe 22 Gor 2005 2:43 pm

Mae'n dda gweld eich bod chi i gyd wedi cael cymaint o hwyl tra'r oeddwn i efo fy nhrwyn wrth y maen. :D

Mae'n bryd i chi ffeindio job go iawn yr uffernols!
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai

cron