Cau edefyn bomio Llundain

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dave Thomas » Gwe 22 Gor 2005 11:24 am

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 11:42 am

Cwlcymro a ddywedodd:Ti ar y llaw arall wir yn meddwl dy fod di'n gywir ar bopeth, ma dy sglodyn anferthol di yn erbyn cefnogwyr y blaid yn dod mewn i bob trafodaeth a dy arrogance llwyr yn erbyn pobl ifancach na chdi yn gwneud i rhywun chwdu.


O gwych! Unwaith yn rhagor mae fy agwedd tuag at PC yn codi. Rwan ta, pryd y bu i mi drafod PC o fewn edefyn Israel? Onid chdi a GT (fel y cyfaddefodd) sy'n darllen pob cyfraniad gennyf yng ngyd-destun fy ymadawiad a PC? O ran oed - maes e di fan hyn, dwi ddim yn ymwybodol faint di oed neb, ond os di cywiro cyfraniadau ffeithiol anghywir yn 'arrogane' yna 'guilty as charged'.

Cwlcymro a ddywedodd:Ma'n cymeryd lot ing ngwneud i'n hapus fod Beti Bach wedi enill etholiad, ond dwi'n meddwl fod chdi wedi llwyddo.


O ni reit falch a dweud gwir. Dim ots be ti'n ddeud am Beti, mae hi wedi bod yn destun gwawd aelodau PC oherwydd ei bod wedi meiddio dal ati yn erbyn y sefydliad PC yng Ngwynedd - a dwi'n parchu hi am hynny.

Credaf y byddai agweddau Beti tuag at weithio dros ei etholaeth wedi bod yn fanteisiol i Simon Thomas, ond ymddengys fod hwnnw wedi gwrando ar Leanne Wood ddywedodd "be di pwynt gweithio dros etholwyr os nad ydynt yn debygol o'ch cefnogi yn etholiadol".

I mi, mae llwyddiant Beti yn rhywbeth i ymfalchio ynddo gan fod ei llwyddiant yn dystiolaeth fod bod yn aelod lleol da yn bwysicach o lawer na 'ymgyrchu gwleidyddol' Leanne (beth bynnag mae hynny'n olygu :? ).

Yn 1997 cafodd Llafur 43% yn Mhrydain a Beti 35% yng Nghonwy. Yn 2005 cafodd Llafur 36% ym Mhrydain a Beti 37% yng Nghonwy. Mae 'na wers yn fan hyn i dy blaid di Cwl ac i bob plaid arall.

Gwnewch y pethau bychain.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 11:45 am

Cwlcymro a ddywedodd:
O leia pan ti'n darllan sylwada Dave ti'n gwbo fod o'n trio sdyrio a bod yn bengalad.


Wrth gwrs i fod o, sut arall byddai modd i UNRHYW UN gael daliadau sy'n groes i dy world view di?

Dadleuon RET neu'r Gath - twpdra, styfnigrwydd neu sdyrio.

Dadleuon Cwlcymro / Cardi / Hedd / GT / unrhyw Guardian reader arall - y gwir, yr holl wir a dim byd ond y gwir.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Gwe 22 Gor 2005 11:58 am

Cath Ddu a ddywedodd:Dadleuon RET neu'r Gath - twpdra, styfnigrwydd neu sdyrio.

Dadleuon Cwlcymro / Cardi / Hedd / GT / unrhyw Guardian reader arall - y gwir, yr holl wir a dim byd ond y gwir.


Ti'n licio bod yn y victim bach twyt. Pan wti'n ymateb i farb pobl erill yn aml wrth ddeud.............

"Engraifft arall o safon trafod isel"
"Pathetig"
"Diflas"
"Dwi ddim am foddro ymateb i weddill dy ddadl"
"Rant"

ti unai yn sdyrio neu yn arrogant. Oni'n meddwl ma sdyrio odd Dave, ond naci medda fo felly ella ma arrogant ydio hefyd.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan eusebio » Gwe 22 Gor 2005 12:16 pm

Cwlcymro, dwi'n meddwl mai disgrifiad o ddadleuon Dave/RET/Realydd sydd gen ti uchod ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan eusebio » Gwe 22 Gor 2005 12:19 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Ymddengys felly fod y system carma yn cosbi am ddaliadau llawn cymaint a dull dadlau ac er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb Dave/RET sy'n gywir. Dy farn, nid dy agwedd sy'n bwysig o fewn Maes E.


Allai gydymdeimlo â'r farn yma gan fy mod i'n fflyctiwetio rhwng un a thri bocs gwyrdd. Pob tro fyddai'n cael dadl efo un neu ddau berson yn arbennig rwyf yn gostwng i un bocs yn ddi-ffael ...
:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Cwlcymro » Gwe 22 Gor 2005 12:44 pm

eusebio a ddywedodd:Cwlcymro, dwi'n meddwl mai disgrifiad o ddadleuon Dave/RET/Realydd sydd gen ti uchod ...


Dave ydi'r "diflas" a'r "safon trafod". Y Gath bia'r tri arall (yn y pythefnos dwytha eniwe)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 12:50 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ti'n licio bod yn y victim bach twyt. Pan wti'n ymateb i farb pobl erill yn aml wrth ddeud.............

"Engraifft arall o safon trafod isel"


Dwi di deud hyn?

Cwl?cymro a ddywedodd:"Pathetig"


Yn achlysurol iawn fe gredaf

Cwl?cymro a ddywedodd:"Diflas"


Naddo, ond mae'n siwr y gwnei ffeindio un esiampl ymhlith fy 950+ cyfraniad

Cwl?cymro a ddywedodd:"Dwi ddim am foddro ymateb i weddill dy ddadl"


Dim ond pan mae'r pwynt dan sylw wedi ei ateb droeon

Cwl?cymro a ddywedodd:"Rant"


Heddiw yn unig fe gredaf

Cwl?cymro a ddywedodd:ti unai yn sdyrio neu yn arrogant. Oni'n meddwl ma sdyrio odd Dave, ond naci medda fo felly ella ma arrogant ydio hefyd.


Pam? Achos fod fy marn yn wahanol i'th un di?

O ran dy gyfraniadau di, mae nhw'n gyson un llygeidiog, yn ffeithiol anghywir yn weddol gyson, yn bradychu rhagfarn yn gyson ac yn hynod hunan fodlon.

Ymddengys hefyd dy fod yn ymateb nid i gynnwys fy nghyfrnaiadau ond i mi fel cyfranwr. Wedi'r cyfan, pam arall fyddai fy nghyn aelodaeth o PC yn berthnasol i ddadl am 'Israel'?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 12:51 pm

Cwlcymro a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Cwlcymro, dwi'n meddwl mai disgrifiad o ddadleuon Dave/RET/Realydd sydd gen ti uchod ...


Dave ydi'r "diflas" a'r "safon trafod". Y Gath bia'r tri arall (yn y pythefnos dwytha eniwe)


So ffeithiol anghywir eto Cwl?

(mae'n siwr bod fi'n arrogant am ddweud hynny hefyd. Ymddengys mai arrogance di cywirio Cwl?cymro.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Gwe 22 Gor 2005 1:10 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Cwlcymro, dwi'n meddwl mai disgrifiad o ddadleuon Dave/RET/Realydd sydd gen ti uchod ...


Dave ydi'r "diflas" a'r "safon trafod". Y Gath bia'r tri arall (yn y pythefnos dwytha eniwe)


So ffeithiol anghywir eto Cwl?

(mae'n siwr bod fi'n arrogant am ddweud hynny hefyd. Ymddengys mai arrogance di cywirio Cwl?cymro.


Be uffar sy'n anghywir am hunna Gath? Oni'n trafod dy ymatebion di a Dave i sylwada pobl erill!

Wedi'r cyfan, pam arall fyddai fy nghyn aelodaeth o PC yn berthnasol i ddadl am 'Israel'?

Ti yn y seiad anghywir gath, Defnyddio Maes-e ydi fama dim Rhyfel a Heddwch.

A'r unig le dwi wedi bod yn ffeithiol anghywir yn siarad efo chdi yn ddiweddar ydi wrth son am restra PR ac os dwi'n cofio'n iawn fy atab i i gael fy nghywiro oedd "I stand corrected".
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai