Dim arwydd o fethiant Cymru Cymraeg ydi y dadla mawr yn y seiat gwleidyddol, ma pob dadl wleidyddol yr un fath. Yr unig bobl sydd isho trafod gwleidyddiaeth yn ddwys ydi pobl sydd a diddordeb yn y pwnc. Ychydig iawn, iawn o bobl sydd efo diddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond sydd ddim efo barn gadarn ar y peth.
Dim ots pa resymeg sydd tu ol i ddadleuon un ochr, anodd iawn ydi newid meddwl rhywun sydd ar farn groes.
Ychydig iawn o gefnogwyr y Blaid wneith byth gefnogi y toriaid, hyd yn oed os fysa nhw'n dod allan a'r maniffesto gora. Ac ychydig iawn o'r bobl gwrth-ddatganoli wneith byth gefnogi mwy o bwera, hyd yn oed os fysa ni'n profi y bysa Cymru ar ei gwell. Dyna pam ma gwleidyddion yn ymladd am y bobl yn y canol gan anghofio am y rheini sydd yn ei gwrthwynebu (ac yn aml iawn yn anwybyddu ei cefnogwyr cryfa).
Fel arfar ma trafodaeth wleidyddol rhwng dau berson drosodd yn o fuan. Ma un person yn dweud ei farn, ma'r llall yn anghytuno, ma nhw'n dadla am ychydig wedyn symyd mlaen i be ddigwyddodd yn y gem neithiwr neu pa mor secsi ydi merch mrs Jones.
Dydi hynny ddim yn digwydd ar wefanau trafod achos fod pobl yn gallu dod nol at yr un ddadl drosodd a throsodd dros gyfnod o fisoedd. Canlyniad hyn ydi fod trafodaeth yn troi yn ddadl, ac yn waeth byth yn troi rownd a rownd ar yr un dadleuon.
Os ydwi i ffwrdd o'r maes am rhyw wythnos neu fwy un o'r petha cynta dwi'n neud ydi logio mewn ac allan yn syth. Swn i'm yn synnu os di'r mwyafrif o bobl yn gwneud rwbath tebyg. Y rheswm am hyn ydi nad oes gan neb fynadd ymuno a dadl sydd ar y pumed lap yn barod.
Ond peth fela ydi trafod gwleidyddol, yn enwedig ar y we lle ma un pwnc yn gallu para hydoedd. Yn anffodus ma na lot mwy o ymosodiada personnol yn ddiweddar, a ma hunna jusd yn peri i betha waethygu.