eusebio a ddywedodd:Nes i dim dweud mai chdi oedd yr unig un, ond chdi yw'r unig un sydd wedi cyfaddef dy fod yn gwybod yn iawn yr hyn oeddet ti'n ei wneud
'Dwi heb.
Roedd y pethau roeddwn yn eu harenwi yn sicr yn digwydd yn yr edefyn - ac roeddwn i'n euog o rai ohonynt.
Mae yn natur y dadleuon yma'n anffodus bod pobl yn tueddu i efelychu technegau ac arddull dadlau eu gwrthwynebwyr.
Rhywbeth arall ydi bod pobl yn camddeall ei gilydd yn aml - yng ngwres pethau mae pobl yn tueddu i gymryd ymosodiadau er eu dadleuon fel ymysodiadau arnyn nhw.
'Dwi'n euog o wneud i bethau ffrwydro weithiau 'dwi'n cyfaddef.
'Dydi GT ddim yn gymeriad go iawn yn yr ystyr ei fod yn gynrychiolaeth llawn o Cai ar y maes.
Mae gen i nifer o ddiddordebau - llenyddiaeth, chwaraeon, cerddoriaeth ac ati - ond unig ddiddordeb GT ydi gwleidyddiaeth. Dyfais ydi o, mewn ffordd i amddiffyn safbwynt wleidyddol neilltuol ar y maes (sydd o dan ymysodiad parhaus a chwbl afresymol yn aml, o gwahanol gyfeiriadau).
Mae'n defnyddio arddull arbennig i wneud hynny - rhai o elfennau dychan - coegni yn arbennig, ac mae'n dadelfenu dadleuon ei wrthwynebwyr ac yn eu rhoi mewn cyd destynnau gwahanol, ac yn gwneud hynny mewn ffordd ymysodol ac uniongyrchol iawn. Dryllio fframwaith deallusol gelynion cenedlaetholdeb prif ffrwd ydi ei
raison d'etre. Mae'r arddull yn ypsetio pobl weithiau, ac mae pobl yn camddeall dychan am ymysodiad personol weithiau - ond mae'r arddull hefyd yn cyflawni ei phwrpas yn effeithiol.
Y pris o fy safbwynt i ydi fy mod yn gorfod derbyn ymysodiadau personol a chael pobl yn dweud celwydd amdanaf o bryd i'w gilydd. Dydi o ddim yn bris mawr - a dydi o ddim yn fy mhoeni.
Mae llawer o bobl rwyf yn ei hadnabod yn y c'nawd yn cael y ffaith mai fi ydi GT yn ddigri. Byddaf yn aml yn cael fy ngyhuddo o fod yn llawer rhy
laid back yn y cigfyd.