Dave Thomas a ddywedodd:Rydw i'n meddwl fod fforwm Macsen yn gweithio'n well ar gyfer y trafodaethau gwleidyddol. Fedra i ddeall rwan sut fod dadlau ffyrnig yn y seiat gwledyddiaeth blaenorol yn amharu ar naws cyfeillgar y maes. Ddim mater o fod pobl eisiau bod yn fwriadol gecrus oedd, ond fod gwleidyddiaeth yn codi emosiynau a dadlau ffyrnig yn aml iawn. Dyna natur y peth gan mae pynciau difrifol iawn yn cael eu trafod.
Dwi'm yn bersonnol yn colli fy limpyn tra'n dadlau yn wleidyddol. Gem ydi o wedi'r cwbwl... tipyn bach fel gamblo, y gwir yw'r 'wild card', mae'r gweddill yn sgil a dyfeisgarwch.
Ond dwi'n deall dy bwynt. Roedd y teimlad drwg oedd yn codi yn y seiadau gwleidyddiaeth yn lledu i weddill y Maes wrth i bobl ddadlau dros bethau dibwys gyda'r un ffyrnigrwydd, a'n cario malais tuag at aelodau eraill o bwnc i bwnc.