gan nicdafis » Mer 24 Awst 2005 4:09 pm
Drychwch, dw i'n gwybod bod lot o bobl moyn i mi ail-agor yr adran, ond gan fod 'na <a href="http://www.yddraig.com/fforwm/">fforwm newydd</a> sy'n dal ei ffeindio ei draed, a chan fy mod i wedi dweud, yn hollol glir, sawl gwaith, bod y seiat gwleidyddiaeth ar maes-e yn creu mwy o waith i fi na dw i'n fodlon rhoi i mewn bob dydd, dych chi'n wastraffu eich egni.
I fod yn hollol agored gyda chi, erbyn hyn dw i'n ennill rhyw £50 y mis mas o redeg y maes, diolch i'r Cefnogwyr a Noddwyr, sy'n wych o beth, wir yr. Ond dyw e ddim digon i dalu fi wneud rhywbeth dw i ddim am wneud, sef treulio awr bob dydd darllen pethau diflas yn y seiadau gwleidyddiaeth.
A pheidiwch dod yn ôl a dweud "ffeindio cymedrolwr arall 'te". Fel dw i wedi esbonio, mae adran wleidyddiaeth wedi bod yn darddiad bob problem cyfriethiol potensial ers i mi ddechrau'r wefan, a dw i ddim am adael cyfrifoldeb dros sicrhau mod i ddim yn cael fy siwio mewn dwylo neb arall.
Yr unig ffordd mae adran wleidyddol yn debyg i ddod yn ôl yw os ydw i'n gallu wneud bywoliaeth mas o redeg y wefan.
Un opsiwn arall yw i aelod(-au) y Clwb Cefnogwyr gynnig creu seiat preifat, a'i redeg. Cysylltwch â fi os dych chi'n fodlon.