Dileu'r edefyn am farwolaeth Margaret Thatcher

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dileu'r edefyn am farwolaeth Margaret Thatcher

Postiogan nicdafis » Gwe 14 Hyd 2005 8:27 pm

Doedd e ddim yn cymryd yn hir, nac oedd?

Dw i newydd ddileu'r edefyn trolaidd am ddathlu marwolaeth Margaret Thatcher. Nid fel 'na mae gwella safon trafodaeth gwleidyddiaeth ar y maes. 'Sai pogon_szczec neu Dave Thoms wedi postio'r fath trol am un o eiconiaid cenedlaetholdeb Gymraeg megis Gwynfor Evans, fyddai fy mewnflwch dan ei sang gyda chwynion, a phobl yn mynnu ei fod e'n cael eu gwahardd.

Os ydy pobl o ddifri meddwl bod angen adran wleidyddiaeth ar y maes, bydd rhaid i bawb godi safon eu g
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 14 Hyd 2005 8:31 pm

(Ga i ofyn i ni gadw'r edefyn yma yn glir o ddadlau gwleidyddol? Dydy hyn ddim am Margaret Thatcher, ond am ddefnyddio maes-e, jyst fel mae'n dweud <a href="http://maes-e.com/viewforum.php?f=42">ar y tun</a>. Diolch.)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan pogon_szczec » Gwe 14 Hyd 2005 10:13 pm

Er fy mod wedi adrodd yr edefyn, yn bersonol dwi ddim yn gweld angen cymerodolaeth.

Mae GT a finnau yn aelodau gwefan Wyddeleg http://www.politics.ie sy'n ffynnu heb law drwm y cymeredolwr.

Er enghraifft, pan naeth rywun dechrau edefyn er gof aelod yr IRA, n'ath rhywun arall ddechrau un er gof Billy Wright.

Mae'r wefan yn polismona'i hun yn dda iawn.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan 7ennyn » Gwe 14 Hyd 2005 10:46 pm

Dwi'n siomedig hefo'r penderfyniad yma - mae yna rhywun wedi bod yn or-sensitif yn fan hyn dwi'n meddwl. O'n i yn dechra mwynhau'r edefyn. Yr unig berson fysa'n beryg o gael ei hypsetio gan y pwnc fysa Mrs T ei hun, ond mae hi'n hogan fawr rwan - dwi'n siwr y bysa hi'n gallu'i gymryd o. Yr unig berson arall fysa'r edefyn yma yn ei ypsetio ydi Elwyn Jones (heddwch i'w lwch) - ond tydi o ddim hefo ni mwyach gwaetha'r modd, a dwi'n wirioneddol drist am hynny!

Nid trolio oedd yr edefyn yma (o bell ffordd), doedd yna ddim pryderon cyfreithiol ynglyn a'i gynnwys ac roedd o yn datblygu i fod yn edefyn difyr. Roedd hwn yn benderfyniad gwael, Nic. Ond chdi ydi'r boss wrth gwrs :winc: !

Be ydi 'trol' beth bynnag? Ydi gweinyddwyr a chymhedrolwyr yn defnyddio'r term yma yn yr un modd ag y mae Bush a'i debyg yn defnyddio'r term 'terfysgwr'? Terfysgwr i un person, ymladdwr rhyddid i un arall - trol i un person, diddannwr i un arall. Ella bod angen trafodaeth iawn i ddiffinio be yn union ydi trolio yng nghyd-destun Maes-e.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan GT » Gwe 14 Hyd 2005 11:01 pm

pogon_szczec a ddywedodd:Er fy mod wedi adrodd yr edefyn, yn bersonol dwi ddim yn gweld angen cymerodolaeth.

Mae GT a finnau yn aelodau gwefan Wyddeleg http://www.politics.ie sy'n ffynnu heb law drwm y cymeredolwr.

Er enghraifft, pan naeth rywun dechrau edefyn er gof aelod yr IRA, n'ath rhywun arall ddechrau un er gof Billy Wright.

Mae'r wefan yn polismona'i hun yn dda iawn.


Cweit.

Ti'n cael dweud beth wyt ti eisiau ar politics.ie, cyn belled nad wyt ti'n torri'r gyfraith, enllibio neu ddechrau edefyn mewn lle amhriodol.

'Does yna neb yn brifo, neb yn rhoi ei ben yn y popty, neb yn ceisio bwyta gwydr. Mae hi'n gymuned bach eitha hapus - os ffraegar.

Pam poeni Nic, wir Dduw?

Wedi dweud hynny, be ffwc oedd y pwynt adrodd ar yr edefyn oni bai dy fod am ei dileu Pogs?

Wnaeth neb adrodd amdanat ti (a ni thrafferthodd Nic ddod a'r edefyn i ben) pan gychwynaist edefyn enllibus oedd yn awgrymu bod aelod seneddol Mid Ulster wedi cyflawni gweithred aflednais yn gyhoeddus. Ni fyddai'r edefyn yna wedi parhau dau funud ar politics.ie.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 14 Hyd 2005 11:12 pm

GT a ddywedodd:Pam poeni Nic, wir Dduw?


Am ein bod ni wedi cael blas o Faes-E heb ei gymeradoli yn y gorffennol, ac roedd o'n gachu. Dadlau plentynaidd ar bob ochor.

Mae rhaid i ti ddeall GT; pan wyt ti'n newid cyfeiriad edefyn i gael dadl gyda Cath Ddu, neu Pogon yn 'gollwng stem', mae'r mwyafrif o bobl yn cau'r edefyn. Mae'n agwedd hunanol iawn i ddweud 'Rydw i eisiau medru deud fy nweud heb neb i fy mhlismona i'. Mae cymuned heb reolau yn gymuned hunanol, ble mae pobl yn gwneud beth mae nhw eisiau heb boeni am fwynhad neb arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Gwe 14 Hyd 2005 11:15 pm

Macsen a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Pam poeni Nic, wir Dduw?


Am ein bod ni wedi cael blas o Faes-E heb ei gymeradoli yn y gorffennol, ac roedd o'n gachu. Dadlau plentynaidd ar bob ochor.

Mae rhaid i ti ddeall GT; pan wyt ti'n newid cyfeiriad edefyn i gael dadl gyda Cath Ddu, neu Pogon yn 'gollwng stem', mae'r mwyafrif o bobl yn cau'r edefyn. Mae'n agwedd hunanol iawn i ddweud 'Rydw i eisiau medru deud fy nweud heb neb i fy mhlismona i'. Mae cymuned heb reolau yn gymuned hunanol, ble mae pobl yn gwneud beth mae nhw eisiau heb boeni am fwynhad neb arall.


Pryd yn union ydw i wedi newid cyfeiriad edefyn?

Y rheswm mae Pogs, Cath Ddu a minnau yn amhoblogaidd ydi nad ydym yn ceisio efelychu Caniadaeth y Cysegr wrth ddadlau am wleidyddiaeth.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan nicdafis » Gwe 14 Hyd 2005 11:17 pm

pogon_szczec a ddywedodd:Er fy mod wedi adrodd yr edefyn, yn bersonol dwi ddim yn gweld angen cymerodolaeth.


Pam yn y byd wnest ti ddefnyddio'r botwm adrodd 'te?

<a href=\"http://maes-e.com/viewtopic.php?t=11677\">barbarella</a> a ddywedodd:Os ydych chi'n gweld neges gan Faeswr arall sydd angen sylw y cymedrolwyr, gwasgwch y botwm yma, a rhowch chydig o wybodaeth ynglyn
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan huwwaters » Gwe 14 Hyd 2005 11:18 pm

GT a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Pam poeni Nic, wir Dduw?


Am ein bod ni wedi cael blas o Faes-E heb ei gymeradoli yn y gorffennol, ac roedd o'n gachu. Dadlau plentynaidd ar bob ochor.

Mae rhaid i ti ddeall GT; pan wyt ti'n newid cyfeiriad edefyn i gael dadl gyda Cath Ddu, neu Pogon yn 'gollwng stem', mae'r mwyafrif o bobl yn cau'r edefyn. Mae'n agwedd hunanol iawn i ddweud 'Rydw i eisiau medru deud fy nweud heb neb i fy mhlismona i'. Mae cymuned heb reolau yn gymuned hunanol, ble mae pobl yn gwneud beth mae nhw eisiau heb boeni am fwynhad neb arall.


Pryd yn union ydw i wedi newid cyfeiriad edefyn?


Y rheswm mae Pogs, Cath Ddu a minnau yn amhoblogaidd ydi nad ydym yn ceisio efelychu Caniadaeth y Cysegr wrth ddadlau am wleidyddiaeth.


Oi!!!

Don't go there!

Ti'n cychwyn pwnc arall rwan!

Gaw ni gadw at unai lleisio ein barn am weithred cy-aelod `Dafis.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan GT » Gwe 14 Hyd 2005 11:20 pm

nicdafis a ddywedodd:Er gwell neu er gwaethaf, mae maes-e yn chwarae r
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 39 gwestai