GT a ddywedodd:A beth yn union ydi'r rol yma?
GT a ddywedodd:Y rheswm mae Pogs, Cath Ddu a minnau yn amhoblogaidd ydi nad ydym yn ceisio efelychu Caniadaeth y Cysegr wrth ddadlau am wleidyddiaeth.
nicdafis a ddywedodd:1) I drafod cerddoriaeth
2) I drafod y celfyddydau
3) I drafod dyfodol yr iaith Gymraeg
4) I drafod teledu, ffilmiau a radio
5) I drafod chwaraeon
6) I drafod (mewn mannau dirgel) crefydd, ffasiwn, ffuglen wyddonol, hanes ayb
I fod yn gymuned arlein i siaradwyr Cymraeg.
nicdafis a ddywedodd:A chi bydd y bobl a fydd yn cwyno am hynny, hefyd
GT a ddywedodd:nicdafis a ddywedodd:1) I drafod cerddoriaeth
2) I drafod y celfyddydau
3) I drafod dyfodol yr iaith Gymraeg
4) I drafod teledu, ffilmiau a radio
5) I drafod chwaraeon
6) I drafod (mewn mannau dirgel) crefydd, ffasiwn, ffuglen wyddonol, hanes ayb
Ac i drafod gwleidyddiaeth (mae adran wleidyddol yma ar hyn o bryd o leiaf).
Nid yw'n bosibl trafod gwleidyddiaeth gan ddefnyddio'r un ieithwedd a beirniad ffilm neu gelf. 'Fedri di ddim ceisio efelychu Richard Dorment wrth drafod gwleidyddiaeth.nicdafis a ddywedodd:A chi bydd y bobl a fydd yn cwyno am hynny, hefyd
Chwynais i erioed.
huwwaters a ddywedodd:Ond yn amlwg, da chi'n edrych am sylw. Am mai Maes-E yw'r lle cysylltiol, cyffordd yn y rhan Gymraeg o'r we, fan hyn dach chi'n defnyddio lleisio'ch barn, gan ddisgwyl cychwyn chwyldro gyda'ch ideals perffaith.
huwwaters a ddywedodd:Shut up, a cer i sefyll ar y cyngor lleol. Os na wnei di lwyddo, mi wnei di sylweddoli dy fod yn y rong achos tydi pobl erill dim yn cytuno gyda chdi. Yn yr un modd tydi rhai pobl ddim yn cytuno a Margaret Thatcher.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai