Rwy'n gweld bod Bibopalwla mewn cell gosb am wythnos.
Dyma'r tro cyntaf imi glywed son am y "gell gosb" ar y Maes.
Mae Bibop wedi bod yn euog o "ddilyn fy ngwenoglyn" ac yn fy ngalw yn "dwat" ar bob cyfle, ond nid ydwyf wedi cwyno am y ffaith.
Os oes bai, mae'n debyg mai fi a nid fo sydd ar fai, gan na sylwais yn ddigon buan pa mor sensitif i feirniadaeth ydyw. Rwy'n gallu bod yn llawdrwm ac yn nawddoglyd yn fy ymatebion, heb ystyried bod rhai o aelodau'r Maes yn ieuenctid.
Gan nad ydwyf wedi cwyno am ymatebion Bibop i'm sylwadau, rwy'n gobeithio nad yw'r ymatebion yna wedi eu hystyried wrth wneud y penderfyniad i'w danfon i'r gell gosb.