Martyn a'i amrywiaeth o AKA's

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan DIFLEWYNARDAFOD » Sul 13 Tach 2005 7:26 pm

Unwaith eto, (fel sawl tro arall) ti'n anghywir, dawncyfarwydd.
Poen? Tydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am drio meddwl dros fy hunan a chynnig barn amgen... Ti'n gweld hyn yn boenus :?:
Rhithffurf defnyddiwr
DIFLEWYNARDAFOD
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 7:24 pm
Lleoliad: Bwrdd Snwcer

Postiogan huwwaters » Sul 13 Tach 2005 7:32 pm

DIFLEWYNARDAFOD a ddywedodd:Unwaith eto, (fel sawl tro arall) ti'n anghywir, dawncyfarwydd.
Poen? Tydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am drio meddwl dros fy hunan a chynnig barn amgen... Ti'n gweld hyn yn boenus :?:


Dyma beth yw'r poen:

Detholiad o negesuon diweddar a ddywedodd:
Os na fydd ein Prifwyl yn cael ei chynnal yn Lerpwl yn 2007 yna rhaid gofyn y cwestiwn syml yma:
A FYDD PWYSIGION YR EISTEDDFOD YN DERBYN CYFLE GWELL I DDATBLYGU CYSYLLTIADAU CRYF A HIRHOEDLOG GYDA BUSNESAU MAWR PRYDEINIG AG EWROPEAIDD-A DERBYN NAWDD HAEL YR UN PRYD?
Os bydd yr Eisteddfod mewn trafferthion ariannol mewn e.e. degawd neu pymtheng mlynedd (a dim wedi derbyn gwahoddiad Lerpwl nol yn 2007) yna mawr obeithiaf na fydd rhai Cymry yn codi pais ar ol piso!
Yndi, mae'n bwysig fod y siop siarad lawr yng Ngaerdydd yn cefnogi'r Steddfod-ond mae hefyd yn eithriadol o bwysig fod pwysigion yr wyl yn datblygu strategaeth economaidd uchelgeisiol-sydd ddim yn mynd i gael ei ddifetha gan agwedd rhai o Gymry cul ein cenedl!

Mmm...efallai y byddai'n berffaith bosibl i'r Steddfod dderbyn mymryn o EWROS oddi wrth gwmniau rhyngwladol/Ewropeaidd/estron heb anghofio am yr egwyddorion sylfaenol. Dwi ddim yn gweld hyn fel tasg gwbl amhosibl-dim o gwbl.
Derbyn dy bwynt y dylai datblygu mwy o gysylltiadau cryf gyda'r sector breifat YNG NGHYMRU fod yn flaenoriaeth....Mymryn o'r ddau sw ni yn ei ddweud-a defnyddio Steddfod Lerpwl fel cyfle unigryw a chyffrous i FENTRO!
Byddai llwyth o Gogs Cymru wedi heidio i Lerpwl er mwyn gwarantu Steddfod gyda llwyth o asgwrn cefn ieithyddol GymRAEG. Mae'n ddiddorol nodi ei bod hi'n llawer haws trafeilio o e.e. Bwllheli i Lerpwl nag o Bwllheli i Gasnewydd.
Un flwyddyn yn unig yn Lerpwl ac yna yn ol i Gymru.Peidiwch a bod ofn cymryd y risg...

im diddordeb/amser/digon o arbenigedd. Yndw (yn wahannol i rai aelodau) dwi'n ddigon gonest i ddadlau mewn ffordd...wel, GONEST!
Ond tydw i byth yn mynd i "gau fy ngheg" ac anwybyddu potensial anferthol maes-e.
maes-e a Y BYD-os nad yw'r 2 fenter yma yn y "deg ucha" o fentrau gwirioneddol gyffrous er lles yr heniaith fel FFENOMENON FYW GO IAWN,yna:PAM? Mae hyn yn ddeud mawr efallai-ond dyma mae rhywun yn ei deimlo weithiau pan mae rhywun yn ceisio edrych ar y darlun mawr/cyfan.
TRWY DDULLIAU TON-GRONAIDD YN UNIG Y MAE LLWYDDO!

Mae gen i bwynt synhwyrol a theg. Be di enw'r gan yna? Can gan Bob Delyn efallai? Y TREN GREFI?? Tydw i ddim yn paentio pawb gyda'r un brwsh-ond mae yna o leiaf pinshad (a mwy efallai) o wirionedd yn perthyn i'r hyn dwi'n ei sgwennu...
Mae'n bwysig fod mudiad fel CYMUNED (http://www.cymuned.net ) yn sylweddoli a chydnabod y canlynol:
Os na allwn greu papur dyddiol Gymraeg a sicrhau y bydd y fenter yn mynd o nerth i nerth yna bai CYMRY fydd hyn-ni ellir beio Saeson, Lloegr, Prydain a.y.y.b.


Dyma rhai o'r negesuon gan un alias.

Ma'r lleill yr un fath. Repetative crap.

Wrach cei di siawns gwell o gael dy dderbyn fel rhywun a barn call, drwy gyflwyno dy hun yn y seiad Croeso a Chyfarchion.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 13 Tach 2005 7:34 pm

Ddim hynny, jest y ffordd anffodus sydd gen ti o dy fynegi dy hun. Dwi wedi gweld pobol yn dadlau'n rhesymol o blaid Steddfod Lerpwl - er fy mod i'n anghytuno, yn amlwg, dwi'n gallu cydymdeimlo
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan DIFLEWYNARDAFOD » Sul 13 Tach 2005 7:48 pm

Tydw i erioed wedi postio "TOMAN O RWTSH" mewn cysylltiad a dadlau o blaid Steddfod Lerpwl 2007.
Mae'n rhyfedd weithiau fel dwi wedi cael fy lambastio droeon am fynegi pwyntiau ychydig yn wahannol (iawn-dwi am ddefnyddio priflythrennau yn llai aml)- tra bod eraill wedi cael eu canmol am ddweud "Cofiwch Dryweryn" wrth ddadlau yn erbyn Steddfod Lerpwl...
Rhithffurf defnyddiwr
DIFLEWYNARDAFOD
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 7:24 pm
Lleoliad: Bwrdd Snwcer

Postiogan Iesu-ar-acid » Sul 13 Tach 2005 7:51 pm

Rhaid gweud fi'n credu odd lot o'r pethe odd e'n gweud yn y dadl yna'n neud lot o synwyr....ma da fe barn sy'n itha pen-agored, ok falle odd e'n defnyddio caps gormod ond rhaid cyfadde fi'n neud hwna o bryd i'w gilydd in the heat of the moment pan chi'n teimlo'n passionate am rhywbeth. Galle chi dadle fod be ma fe di gweud am y steddfod yn repetitive....ond galle chi hefyd gweud hwna am pawb sy'n dadle o blaid cadw'r steddfod yng Nghymru yn unig.

Os bydde rhywun yn dadle hyd yn oed o blaid dod a'r 'Welsh not' yn ol....ond bo nhw ddim yn actio fel prat ac yn itha rhesymol wrth dadle byse fi'n gadel nhw aros yn aelod - ma amrywiaeth mewn barn yn neud y lle ma'n mwy diddorol.
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu-ar-acid
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 128
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 6:11 pm

Postiogan DIFLEWYNARDAFOD » Sul 13 Tach 2005 7:56 pm

Cyfraniad synhwyrol iawn :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
DIFLEWYNARDAFOD
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 7:24 pm
Lleoliad: Bwrdd Snwcer

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 13 Tach 2005 8:01 pm

ond mae o wedi'i wahardd SAWL gwaith gan Nic, dwi'm yn gwbod pam ond mae'n siwr bod 'na reswm.

yn 'ngeiria'r chief:

Nic Dafis a ddywedodd:Ffyc off, wnei di?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan DIFLEWYNARDAFOD » Sul 13 Tach 2005 8:02 pm

Peth arall- roedd cau'r edefyn "Rhestr Buddsoddwyr Y BYD" yn gamgymeriad. Ble yn union oedd y negeseuon enllibus/maleisus/hiliol/pesonol...?
Rhithffurf defnyddiwr
DIFLEWYNARDAFOD
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 7:24 pm
Lleoliad: Bwrdd Snwcer

Postiogan gronw » Sul 13 Tach 2005 8:04 pm

beth am beidio trafod hyn? does dim llawer o bwrpas dadlau nac ymosod ar y dyn.

esboniad o ryw fath: mae e wedi cael ei wahardd o'r maes gan nic am byth bythoedd amen, dro ar
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Iesu-ar-acid » Sul 13 Tach 2005 8:04 pm

Fi di bod yn wondero be nath y legendary "Martin Llywelyn Williams" 'ma o'i le hefyd....os da unrhywun unrhyw dyfyniadau o fe'n bod yn gas neu rhywbeth i ddangos? Neu ife just odd neb yn hoffi barn e?
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu-ar-acid
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 128
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 6:11 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron