gan dafydd » Gwe 18 Tach 2005 4:58 pm
Dwi'n amau'r ffigyrau yma ychydig.. cofiwch fod y ffigwr yn dangos y nifer o westai oedd yn darllen (sy'n cynnwys peiriannau chwilio sy'n 'darllen' y safle).
Hefyd ar yr union adeg yna roedd problemau gyda'r rhwydwaith rhwng Prydain a Dreamhost a felly roedd pobl yn fwy tebygol o drio ail-lwytho'r dudalen o hyd. Mi all hyn gynyddu y nifer o sesiynau sy'n cael ei creu yn y fforwm a felly chwyddo y nifer o 'ddefnyddwyr' ar yr adeg honno.