Tudalen 1 o 2
Neges wedi ei golygu...
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 3:59 pm
gan Huw Psych
Golygwyd gan Huw Psych ar Maw Tach 29, 2005 11:51 am, golygwyd ar 1 achlysur yn unig
Ges i hwn o dan neges i fi ei golygu...ydi hyn yn rwbath newydd??
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 4:03 pm
gan Wierdo
Nadi, odd hyn yn digwdd o'r blaen ond dio eb yn ddiweddar, man rhaid ei fod o di dechra eto...
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 4:23 pm
gan nicdafis
Do'n i ddim wedi sylweddoli ei fod e wedi stopo gweithio, ond dw i'n credu bod Barbarella wedi diweddaru'r fersion o phpBB yn diweddar (heddi?), felly mae'n bosib taw hynny sy'n gyfrifol.
Re: Neges wedi ei golygu...
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 4:27 pm
gan Barbarella
Dim fi nath!
Does na'm byd wedi newid yn ddiweddar. Mae'r neges wedi bod yna ers amser. Dwi'n meddwl.
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 4:28 pm
gan Ramirez
Dwi wedi sylwi nad yw'r nodyn ar y gwaelod yn dod i fyny bob tro mae neges yn cael ei golygu.
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 4:34 pm
gan Al
Ramirez a ddywedodd:Dwi wedi sylwi nad yw'r nodyn ar y gwaelod yn dod i fyny bob tro mae neges yn cael ei golygu.
mond os wy ti yn ei olygu ar ol 10 munud oi bostio fo mae'r neges yn ymddangos, dwin meddwl
Babs?
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 4:43 pm
gan Wierdo
mi fysa hunan neud synnwyr chos yr unig amser dwin golygu neges ydi chydig eiliada rol fi bostio fo!
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 9:21 pm
gan Mali
Wierdo a ddywedodd:mi fysa hunan neud synnwyr chos yr unig amser dwin golygu neges ydi chydig eiliada rol fi bostio fo!
A dyna finna wedi dysgu rhywbeth newydd heddiw !
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 10:20 pm
gan 7ennyn
Dwi'n meddwl ei bod hi'n arfer
iad da ychwanegu brawddeg bach i ddweud be sydd wedi cael ei newid yn y neges. Neu, yn hytrach na dileu rhywbeth yn llwyr, rhoi llinell drwyddo fo <strike>fel hyn</strike>.
- Cod: Dewis popeth
<strike>fel hyn</strike>
gol. 'Arferiad' o'n i isio ei ddweud nid 'arfer'!
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 10:54 pm
gan 7ennyn
Wnes i olygu fy neges blaenorol 25 munud ar ol i mi ei phostio'n wreiddiol, ond tydi'r...
Golygwyd gan 7ennyn ar Maw Tach 29, 2005 23:45 pm, golygwyd ar 1 achlysur yn unig
... heb ymddangos.