Hysbysebu Gigs yn Lloegr ac ati
Postiwyd: Iau 01 Rhag 2005 10:20 pm
Dw i'n hoff o B.B. King hefyd, ond oedd rhaid symud <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?p=241481#241481">hyn</a> mas o'r seiat Gigs, dw i'n meddwl. Yn bennaf ar gyfer hysbysebu gigs gan fandiau Cymraeg/Cymreig, neu gigs yng Nghymru yw'r seiat. Sa i'n credu ein bod ni erioed wedi diffinio fe felly, ac mae'n siwr y bydd rhywun nawr yn gallu ffeindio enghreifftiau llu o gigs yn Lloegr gan fandiau o tu mas o Gymru, ond wnaeth hyn fy nharo fi. Es i i dri o'r gigs gorau dw i erioed wedi gweld cwpl o wythnosau yn