Hysbysebu Gigs yn Lloegr ac ati

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hysbysebu Gigs yn Lloegr ac ati

Postiogan nicdafis » Iau 01 Rhag 2005 10:20 pm

Dw i'n hoff o B.B. King hefyd, ond oedd rhaid symud <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?p=241481#241481">hyn</a> mas o'r seiat Gigs, dw i'n meddwl. Yn bennaf ar gyfer hysbysebu gigs gan fandiau Cymraeg/Cymreig, neu gigs yng Nghymru yw'r seiat. Sa i'n credu ein bod ni erioed wedi diffinio fe felly, ac mae'n siwr y bydd rhywun nawr yn gallu ffeindio enghreifftiau llu o gigs yn Lloegr gan fandiau o tu mas o Gymru, ond wnaeth hyn fy nharo fi. Es i i dri o'r gigs gorau dw i erioed wedi gweld cwpl o wythnosau yn
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 01 Rhag 2005 10:25 pm

dwi'm yn siwr...ar un llaw, gwefan Gymraeg 'di hon, a felly ddylia na mond gigs cymraeg sy'n cael eu hysbysebu yma...ond ar y llaw arall, yn y gymraeg maent yn cael eu trafod, dwnim.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 02 Rhag 2005 2:39 am

Rwyf wedi clywed Dafydd Iwan yn canu yn Llundain a Chaeredin, blynyddoedd maith yn
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Jams » Gwe 02 Rhag 2005 9:32 am

Rhaid fi gytuno gyda'r HRF yn fynna. Peth braf fi'n credu yw gallu trafod pob gig ta ble ma fe a ta pwy sy'n ware trw'r Gymraeg. Wrth weud hwnna - fyddai yn mynd i watcho'r Stones blwyddyn nesa a dal i feddwl taw nhw yw band gore'r byd!

Pwynt da gyda Nic hefyd - fi'n credu bod e yn bwysig ofnadw i hybu'r bandiau cymraeg a'r lle gore i neud hwnna yw yn y seiat gigs.

Felly , i gadarnhau......sod it, fi'n myn nol i ishte ar y ffens :rolio:
'Na fel ma hi, a fel na fydd hi, os na newidyff hi

Sheriff Buford T. Justice - "Junior, there is no way you are the fruit of my loins. When I get home I'm gonna smack your mamma in the mouth"
Rhithffurf defnyddiwr
Jams
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Maw 14 Meh 2005 1:58 pm
Lleoliad: Felindre, Abertawe

Postiogan nicdafis » Gwe 02 Rhag 2005 9:40 am

Mae gigs gan artistiaid Cymraeg sy'n chwarae tu mas o Gymru yn eitha cyffredin (Fernhill yng Ngwald y Belg, KAFC yn Llundain), ac mae ambell gig Cymru gan artistiaid o bant yna hefyd (Pogues yng Nghaerdydd) - sa i'n credu bod neb yn poeni am y rheiny. Mae'n bosib taw HRF yw'r unig ffan Rolf Harris ar y maes, ond croeso iddo hysbysebu ei gigs Cymreig yma, pan daw e nesa. ;-)

Mae seiat gigs yn wahanol i bob seiat arall ar y maes, gan fod ei brif pwrpas yw <b>hysbysebu</b> gigs, wedyn i'w trafod. Does neb yn dweud na allen ni drafod B.B.King, yn y Gymraeg hyd yn oed, ar y maes. Dim ond bod ehangu'r seiat gigs i gynnwys artistiaid sy ddim ag unrhyw cysylltiad
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Jams » Gwe 02 Rhag 2005 10:06 am

nicdafis a ddywedodd:Mae'r seiat hefyd yn fwy <i>labour intensive</i> na'r seiadau eraill, gan fod Norman yn mynd trwyddo fe bob hyn a hyn a throi bob gig sy'n digwydd yn y dyddiau nesa yn ludiog, ac wedyn datludo gigs sy wedi digwydd.


Gweld dy bwynt di am fwy o waith mynd trwyddo gyd o'r gigs. Syniad da yw dodi gigs 'di-Gymreig' yn un o'r seiadau cerddoriaeth arall de, jyst i arbed y gwaith ychwanegol. Felly cytunaf Mr.Dafis!

Fi'n siwr bod ti'n falch o gefnogaeth rookie maes e! :winc:
'Na fel ma hi, a fel na fydd hi, os na newidyff hi

Sheriff Buford T. Justice - "Junior, there is no way you are the fruit of my loins. When I get home I'm gonna smack your mamma in the mouth"
Rhithffurf defnyddiwr
Jams
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Maw 14 Meh 2005 1:58 pm
Lleoliad: Felindre, Abertawe

Postiogan Huw Psych » Gwe 02 Rhag 2005 10:34 am

Os ydi'r drafodaeth yn gymraeg, mae o'n iawn, achos dyna sydd yn bwysig!!
HRF a ddywedodd:Fe newis personol yw gadel i Gymry Cymraeg trafod be a fynnent trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ar Faes-e .

Y broblem ydi pa seiad i'w rhoi nw...dwi o'r farn seiad gigs.
Os fydd o'n ofnadwy o labour intensive, pam ddim neud seiad ar gyfer gigs tu-allan i gymru/saesneg yng nghymru??
Os rhow chi nw mewn seiad arall, e.e. cerddoriaeth y byd, symud y broblam ar rywun arall, mewn seiad arall ma hyn yn ei neud.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan dafydd » Gwe 02 Rhag 2005 10:56 am

Dwi ddim yn gweld pwynt gorfod treulio gymaint amser ar drefnu'r seiat gigs pan fo gwefannau eraill yn rhestru'r gigs mewn ffordd llawer mwy hwylus (ond dwi yn gweld y pwynt o gael lle i'w trafod).

Polisi Curiad yw hysbysebu gigs unrhywle yn y byd (ond Cymru/Lloegr rhan fwyaf) lle mae o leia un band yn y gig yn canu'n Gymraeg (hyd yn oed os nad ydyn nhw'n canu caneuon Cymraeg yn y gig penodol hwnnw). Er enghraifft mae rhai bandiau 'dwyieithog' yn chwarae setiau saesneg yn Lloegr gyda ambell i g
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Dan Dean » Gwe 02 Rhag 2005 1:55 pm

Dw i'n hoff o B.B. King hefyd, ond oedd rhaid symud hyn mas o'r seiat Gigs, dw i'n meddwl. Yn bennaf ar gyfer hysbysebu gigs gan fandiau Cymraeg/Cymreig, neu gigs yng Nghymru yw'r seiat. Sa i'n credu ein bod ni erioed wedi diffinio fe felly, ac mae'n siwr y bydd rhywun nawr yn gallu ffeindio enghreifftiau llu o gigs yn Lloegr gan fandiau o tu mas o Gymru, ond wnaeth hyn fy nharo fi. Es i i dri o'r gigs gorau dw i erioed wedi gweld cwpl o wythnosau yn
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 02 Rhag 2005 2:02 pm

ia na ti'n iawn, da ni'n trafod teledu saesneg a 'ballu tydan?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron