Wedi cael ymateb gan Dreamhost: mae terfyn ar y nifer o negeseuon fel hyn sy'n cael eu hanfon - mae'n debyg ei bod nhw'n wneud hyn i stopio sbamwyr - mae'n debyg bod dros 1000 o negeseuon yr awr yn cael eu creu gan bobl sy'n "gwylio" edeifion, ac yn cael ebost bob tro maent yn derbyn neges sydyn newydd.
Unwaith eto, maes-e yn diodde achos ei fod e mor boblogaidd.
Dw i'n gweithio ar ffordd rownd y broblem.