gan Darth Sgonsan » Gwe 16 Rhag 2005 1:49 pm
mae ING yn chwa o awyr afiach i'w groesawu mewn byd gwleidyddol gywir, tynnu coes mae o siwr, nid cyflwyno dadl resymegol a chall dros ddileu S4C - dyna fydda brad.
ma Shelleyvision yn y Mirror a phetha tebyg yn tynnu'r troeth o raglenni teledu, a mae angen cadw slags teli lawr rhag iddyn nhw ddechra meddwl bo nhw'n sbesh jesd am bod eu gwep nhw ar y bocs (yda ni gyd yn nabod rhei felly)
wrth edrych nol ar y flwyddyn , mae ei iniwendo rhywiol a'i hanesion Wncwl Dewi yn uchafbwyntiau disglair - parhaed o i ddifwyno
ond dwi ddim yn erbyn Hen Rech chwaith - mae ei enw yn amlygu'r ffaith fod o'n teimlo allan ohoni braidd ar y maes, yn methu deall safbwyntiau'r to iau. mae'r Hen Rech wedi codi cwestiwn diddorol - ydi ING jesd yn creu hwyl drwy sbeitio diniwad, neu ydio'n gneud drwg i S4C drwy ei slagio'n ddidrugaredd?
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man