gan dafydd » Maw 10 Ion 2006 4:42 pm
Chwilen gyda teitlau hir yw e. Mae cyfyngiad o 60 llythyren ar deitl (o fewn y gronfa ddata) ond mae phpbb yn rhedeg y teitl drwy html_entities a felly yn newid " i "
Felly mae hyn yn newid un nod " i 5 nod! A felly gall teitl hir fynd dros 60 llythyren a mae " yn cael ei dorri fwrdd i e.e. &qu - a mae'r teitl yn mynd ar chwal.
Os yw'r teitl o dan tua 50 llythyren mae'n debyg o fod yn saff ond sdim garanti, yn enwedig os oes acenion ynddo, sydd hefyd yn cael eu troi yn endidau HTML.