Tudalen 1 o 1

Dyfynodau dwbl mewn teitl edefyn

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 4:28 pm
gan nicdafis
Dyn nhw ddim yn gweithio. Peidiwch

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 4:31 pm
gan huwwaters
Beth am roi ' \" ' yn lle ' " ' yn unig?

Tydi phpBB ddim yn dilysu'r fath mewnbwn? I osgoi ryw fath o hacking attempt?

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 4:42 pm
gan dafydd
Chwilen gyda teitlau hir yw e. Mae cyfyngiad o 60 llythyren ar deitl (o fewn y gronfa ddata) ond mae phpbb yn rhedeg y teitl drwy html_entities a felly yn newid " i "

Felly mae hyn yn newid un nod " i 5 nod! A felly gall teitl hir fynd dros 60 llythyren a mae " yn cael ei dorri fwrdd i e.e. &qu - a mae'r teitl yn mynd ar chwal.

Os yw'r teitl o dan tua 50 llythyren mae'n debyg o fod yn saff ond sdim garanti, yn enwedig os oes acenion ynddo, sydd hefyd yn cael eu troi yn endidau HTML.

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 6:03 pm
gan nicdafis
Dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 6:25 pm
gan dafydd
Mae pwnc y neges wedi ei gyfyngu i 60 llythyren yn y ffurflen hefyd - felly fyddai'n bosib cynyddu hyd y teitl y gronfa ddata i 100 neu hyd yn oed 255 a mi fyddai hynny'n gwella pethe.

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 7:08 pm
gan nicdafis
Gwella'r sefyllfa gyda dyfynodau falle, ond sa i'n credu bod angen teitlau hirach yn gyffredin. Byddai'n tueddu wneud rhestr o deitlau yn fwy anodd i'w darllen.

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 7:15 pm
gan dafydd
nicdafis a ddywedodd:Gwella'r sefyllfa gyda dyfynodau falle, ond sa i'n credu bod angen teitlau hirach yn gyffredin. Byddai'n tueddu wneud rhestr o deitlau yn fwy anodd i'w darllen.

Wel fydde'r teitlau yr un hyd (60 llythyren ar y mwyaf) achos mae'r ffurflen yn ei gyfyngu, ond fe fyddai fwy o le yn y gronfa ddata i'r teitl 'ehangu' i'w ffurf HTML llawn. Ond dyw e ddim y peth pwysica yn y byd chwaith :)
Dangosir pob amser fel UTC
Tudalen 1 o 1