nicdafis a ddywedodd:Macs, ydy hyn ond yn digwydd ers i ti symud? Wyt ti'n defnyddio cyfrifiadur newydd? Rhannu cysylltiad i'r we?
Na, roedd o'n digwydd yn Nghymru hefyd, dwi'n defnyddio'r un cyfrifiadur, a tydw i ddim yn rhannu cysylltiad gwe heblaw gyda un newyddiadurwr sydd byth yn ei ddefnyddio am ei fod o'n gweithio o 3pm tan 2am a'n cysgu gweddill yr amser.
nicdafis a ddywedodd:Dw i am newid teitl yr edefyn gyda'r llaw. Dere ymlaen Macsen, darllen y ffycin ganllawiau.
Mae'n cymrydmwy o amser i ddarllen y teitl nawr nag oedd hi i glicio ar yr edefyn a gweld beth sy'n bod. A mae hi'n eithriadol o anodd teipio adref, gyda'r allweddfwrdd ar fy nglin a'r sgrin cyfrifiadur ar y llawr. Ond 'dw i yn y gwaith nawr.
nicdafis a ddywedodd:Ddim yn dweud taw arnat ti mae'r bai, ond ti benderfynnodd symud i Loegr...
Gwae fi a fy ffolineb! Ond, sibrwd e...
mae Newcastle yn neisach na unrhywun o ddinasoedd Cymru. Ond mae cefn gwlad Cymru llawer neisach wrth gwrs.