Canllaw i ddefnyddwyr newydd - gwneud y gorau o Faes-e:
1. Paid trafferthu chwilio am y seiat sy'n fwya addas i dy neges. Postia i'r seiat cynta fyddi di'n gweld - fe wneith hynny'r tro. Fe fydd y cymedrolwyr yn symud dy neges rywle arall os oes angen - wedi'r cyfan dyna yw eu gwaith. Mae nhw wrth ei bodd yn gwario eu hamser yn trefnu'r seiadau.
2. Cyn i ti bostio, paid ymchwilio i weld os yw'r pwnc wedi drafod o'r blaen. Cof byr sydd gan aelodau maes-e. Maent yn hoffi trafod union yr pynciau o'r newydd bob mis - mae rhywbeth newydd yn cael ei godi bob tro. Cofia, fel aelod newydd, dy safbwynt di yw'r peth pwysicaf yn y byd.
3. Gwna'n siwr dy fod yn recriwtio dy ffrindiau a dy teulu i ymuno a maes-e. Mi fydd hyn yn gymorth mawr os ei di i ddadl hir mewn unrhyw drafodaeth - mi fydd gen ti nifer o bobl yn barod i dy amddiffyn a fydd dim rhaid i ti ddysgu trafod ar ben dy hunan.
4. Gyda dy ffrindiau nawr ar y maes, galli di agor edefyn i sgwrsio gyda nhw, hyd yn oed os ydyn nhw y stafell drws nesaf. Gwna gymaint o j