Nid stafell sgwrsio yw maes-e (unwaith eto)
Postiwyd: Mer 15 Chw 2006 11:04 am
Dyn ni wedi cael y trafodaeth yma o'r blaen, ond falle byddai'n werth ail-ymweld
Gwen a ddywedodd:Pan ti'n son am "gymeriad" y maes, Huw, son am ei gymeriad o fewn y chydig fisoedd dwytha wyt ti. Mae'r lle'n mynd drwy wahanol gyfnodau wrth gwrs, ond os edrychi di'n ol drwy'r hen negeseuon, mi weli di nad oedd na gymaint o falu awyr a hyn a phobl yn deud eu deud pitw ym mhob blydi edefyn yn y gorffennol.