Nid stafell sgwrsio yw maes-e (unwaith eto)

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Nid stafell sgwrsio yw maes-e (unwaith eto)

Postiogan nicdafis » Mer 15 Chw 2006 11:04 am

Dyn ni wedi cael y trafodaeth yma o'r blaen, ond falle byddai'n werth ail-ymweld
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 22 Chw 2006 9:29 pm

Gallsai fod yn ffordd o godi safon y trafod "go iawn", ond a fyddai hefyd yn medru tynnu'r ddadl o'r "lle dadlau" i'r ystafell sgyrsio, a fydd yn gwanhau'r dadlau? Sa fo hefyd yn medru troi yn "Bae-ffrae", ac yn llawer anos i edrych ar ei
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Gwen » Mer 22 Chw 2006 10:32 pm

Ia, ond fysa dim cymaint o ots fod pobl yn ffraeo yn fanno nafsa oherwydd natur mwy byrhoedlog y deunydd. Fyddai'r holl drafodaethau ddim yn cael eu cadw fel yn fan hyn.

Dwi'n cytuno efo Nic ei bod hi fel tasa "oed" maes-e wedi gostwng yn arw yn ddiweddar. Mae na aelodau ifanc wedi bod yma erioed, ond fel y dudodd Chwadan mewn trafodaeth arall, am eu bod nhw mewn lleiafrif, roeddan nhw'n gwneud ymdrech ymwybodol i drafod yn fwy aeddfed efo'r aelodau hy^n. Fel mae hi rwan, dwi - a lot o'r hen aelodau mae'n siwr - teimlo genhedlaeth o leia allan ohoni. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 22 Chw 2006 11:19 pm

Be ddigwyddodd i negesfwrdd tan 18 dyfodol.com? Byddai'n bendant yn syniad ail gychwyn negesfwrdd ar gyfer pobl oed ysgol - oes gan rhywyn y gallu, adnoddau a'r amser?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Huw Psych » Iau 23 Chw 2006 1:05 am

Dwi o ddau farn....mi fydd safon y trafod ar y maes, mae'n debyg, yn codi, ond mi fydd cymeriad y maes yn cael ei golli. Dwi ddim yn siwr y byddai angen rhywun i gymedroli, yn amlwg byddai angen rhywun i gadw llygad a gneud yn siwr fod popeth yn mynd yn iawn, ond dim i fod yn rhy 'strict'!
Yn sicr mae mwy o farnu cymeriad maeswr dyddia yma. Ella bydda fo'n niwedio'r maes wrthi i ddadleuon yn y bae sgwrsio ddod mewn i'r maes? Meddwl cymysg gen i!! :? :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Gwen » Iau 23 Chw 2006 12:06 pm

Pan ti'n son am "gymeriad" y maes, Huw, son am ei gymeriad o fewn y chydig fisoedd dwytha wyt ti. Mae'r lle'n mynd drwy wahanol gyfnodau wrth gwrs, ond os edrychi di'n ol drwy'r hen negeseuon, mi weli di nad oedd na gymaint o falu awyr a hyn a phobl yn deud eu deud pitw ym mhob blydi edefyn yn y gorffennol. :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan krustysnaks » Iau 23 Chw 2006 12:15 pm

Gwen a ddywedodd:Pan ti'n son am "gymeriad" y maes, Huw, son am ei gymeriad o fewn y chydig fisoedd dwytha wyt ti. Mae'r lle'n mynd drwy wahanol gyfnodau wrth gwrs, ond os edrychi di'n ol drwy'r hen negeseuon, mi weli di nad oedd na gymaint o falu awyr a hyn a phobl yn deud eu deud pitw ym mhob blydi edefyn yn y gorffennol. :drwg:

Clywch, clywch. Dwi'n rhoi llai o amser i'r maes nag erioed, achos mod i jyst ddim am nofio drwy pit slyri o negeseuon dibwys.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan huwwaters » Iau 23 Chw 2006 3:01 pm

Dwi wedi codi'r pwynt ma eisoes.

I feddwl y gall edefyn droi at un efo jocs am fammau pobl, yn rhoi darlun o mentality y bobl yma - pobl anaeddfed.

Ma'r lle ma hefyd yn llenwi efo idiots o fandiau gwahanol sy'n haslo pobl, nid yn unig yn y seiadau cerddoriaeth. Plis dewch yn ol, pan chi efo rhywbeth.

A chi bobl sy'n meddwl bod be chi'n ddeud mor bwysig. Newch chi stopio sbamio pob edefyn efo crap toes neb isio'i ddarllen neu am anwybyddu.

Peth ma maes-e ei angen yw 'killfile'!
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron