A oes twll yn rhaglen y Maes?
Yn aml iawn byddwyf yn cael e-bost gan Nic yn dweud bod ymateb i sgwrs wedi ei bostio, ond o glicio ar y cysylltnod yn cael y neges nad yw'r neges / edefyn yn bodoli mwyach.
O fynd at yr hafan i chwilio am y drafodaeth, gwelaf fod y sgwrs, ac yn wir neges newydd, yn bodoli.
Credaf fod yr hyn sy'n digwydd yw bod cyfraniad yn cael ei bostio ac yn cael ei olygu. Y cyfraniad cyn ei olygu sy ddim yn bod. Ond gan nad oes neb wedi darllen y neges cyn ei olygu mae'r negeseuon gwylio trafodaeth yn dod i ben.
A oes modd oresgyn y twll yma?