Dyw'r neges dim yn bod.

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dyw'r neges dim yn bod.

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 02 Maw 2006 6:21 am

A oes twll yn rhaglen y Maes?

Yn aml iawn byddwyf yn cael e-bost gan Nic yn dweud bod ymateb i sgwrs wedi ei bostio, ond o glicio ar y cysylltnod yn cael y neges nad yw'r neges / edefyn yn bodoli mwyach.

O fynd at yr hafan i chwilio am y drafodaeth, gwelaf fod y sgwrs, ac yn wir neges newydd, yn bodoli.

Credaf fod yr hyn sy'n digwydd yw bod cyfraniad yn cael ei bostio ac yn cael ei olygu. Y cyfraniad cyn ei olygu sy ddim yn bod. Ond gan nad oes neb wedi darllen y neges cyn ei olygu mae'r negeseuon gwylio trafodaeth yn dod i ben.

A oes modd oresgyn y twll yma?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Dai dom da » Iau 02 Maw 2006 11:55 am

Os ti moyn cal gwared o'r ebyst syn dod i ti am y negeseuon newydd, cer i dy broffeil, ac wedyn cer lawr i'r rhan 'ie' neu 'nage'. Fydd na cwestiwn syn gweud hyn:

Rho wybod i mi os oes ymatebion:
Anfon ebost atat ti pan fydd rhywun yn
ymateb mewn pwnc lle wyt ti wedi cyfrannu.
Gelli newid y gosodiad hwn gyda phob neges


Gwasga ar 'nage' fydd ar bwys y cwestiwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan nicdafis » Iau 02 Maw 2006 7:03 pm

Sa i'n credu yr Hen Rech am beidio cael y negeseuon, ond eisiau iddyn nhw *weithio* mae e.

Rhaid dweud dw i ond yn defnyddio'r peth "gwylio" gyda ambell i edefyn pwysig - i bopeth arall dw i'n dibynnu ar y botwm <a href="http://maes-e.com/search.php?search_id=newposts">Negeseuon Newydd</a> - ond mae rhaid i mi ddarllen lot o bethau hyd yn oed dw i ddim yn cymryd rhan yn y sgyrsiau.

Mae'n debyg dy fod di'n iawn HRF, bod y negeseuon sy'n peri'r ebost wedi'u golygu neu symud cyn i ti weld yr ebost. Dw i ddim yn gweld ffordd hawdd rownd hyn, a bod yn onest. Os nad ydy rhywun arall yn gwybod am ffordd i ddatrys y broblem, wna i edrych i mewn i'r peth ar wefan <a href="http://www.phpbb.com/">phpBB</a>.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Barbarella » Iau 02 Maw 2006 7:56 pm

Dwi'm yn gweld sut gallai hyn ddigwydd gyda rhywun yn golygu neges, ond yn sicr gallai ddigwydd os yw cymedrolwr yn dileu'r neges sydd wedi ysgogi'r ebost i ti.

Sdim ffordd rownd hyn, sori -- yr unig ateb yw gofyn yn neis i aelodau'r Maes beidio postio negeseuon gwirion/enllibus sydd angen eu dileu yn y lle cyntaf! ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 07 Maw 2006 4:39 am

Barbarella a ddywedodd:Dwi'm yn gweld sut gallai hyn ddigwydd gyda rhywun yn golygu neges, ond yn sicr gallai ddigwydd os yw cymedrolwr yn dileu'r neges sydd wedi ysgogi'r ebost i ti.

Sdim ffordd rownd hyn, sori -- yr unig ateb yw gofyn yn neis i aelodau'r Maes beidio postio negeseuon gwirion/enllibus sydd angen eu dileu yn y lle cyntaf! ;-)


Dyma engraifft:

viewtopic.php?p=267743#267743

Hyd y gwelaf dyw'r Mam Ddaear heb ei ddileu fel neges gwirion / enllibus!

Pam nad yw yn "bod"?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw 07 Maw 2006 8:36 am

ma'r pwnc cyfan wedi mynd...
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 07 Maw 2006 12:40 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:ma'r pwnc cyfan wedi mynd...

Na, mae'r pwnc yna o hyd, sef trafodaeth yn "Criw Duw" am Ddydd Gwyl Dewi
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Barbarella » Maw 07 Maw 2006 12:55 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Dyma engraifft:

viewtopic.php?p=267743#267743

Hyd y gwelaf dyw'r Mam Ddaear heb ei ddileu fel neges gwirion / enllibus!

Pam nad yw yn "bod"?


Mae'r linc yna yn cyfeirio at un neges yn benodol o fewn y pwnc. Er bod y pwnc dal i fodoli, dyw'r neges benodol yna ddim -- rhaid bod cymedrolwr, neu'r awdur ei hun, wedi ei ddileu.

Mae'r linc yma yn cyfeirio'n gywir at y pwnc yn ei gyfanrwydd:

viewtopic.php?t=17585
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan nicdafis » Maw 07 Maw 2006 1:52 pm

Mae linc i'r edefyn yn yr ebost eisioes, os wyt ti'n tocio hyn tipyn bach:

viewtopic.php?t=17615<strike>&unwatch=topic</strike>

Byddai'n bosibl cynnwys y linc syml i ddechrau'r edefyn, os ydy golygu dolen yn ormod o drwbl ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mr Gasyth » Maw 07 Maw 2006 2:52 pm

Defnyddio 'negeseuon newydd' fydda i bob tro - lot llai o drafferth.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron