Rhys Llwyd a ddywedodd:Does dim fath beth a 'seciwlar' - ma seciwlar yn ffydd yn ei hun; jest y gwr hwnw sy'n credu mewn 'seciwlariaeth' sy'n ofn neu'n rhagfarnus tuag at unrhyw fath o ffydd sy'n seiliedig ar rywbeth ti hwnt i'r Fi fawr.
Cachu rwtsh. Diffiniad "seciwlariaeth" ydi
"form of governance that is not affiliated with any particular religion". Nid safbwynt athronyddol o gwbl, ond yn hytrach un ymarferol. Hynny yw, yn yr achos yma mae'n golygu nad oes gan grefydd unrhyw ddylanwad ar y modd y mae Maes-E yn cael ei redeg.
ond ta waeth, mae hynny'n mynd oddi ar y pwnc hefyd.
Yr unig broblem efo'r edefyn gwreiddiol o beth wela' i ydi bod dadl wedi dechrau lle nad oedd dadl yn addas. Aelod newydd yn gofyn cwestiwn diniwed am lefydd i fynd i gymdeithasu yng Nghaerdydd. 'Doedd dim lle i ddechrau moesoli a pharablu mlaen am y Beibl o gwbl yn yr achos yna.
Wrth gwrs mae "croeso" i bobl feddwl bod y fath beth yn "bechod" neu be bynnag (ond mae dal yn eich gwneud yn homoffob rhagfarnllyd), ond nid dyna oedd y lle i ddechrau hefru am y peth. Dechreuwch edefyn newydd mewn seiat priodol, os oes raid. Dyna i gyd.