Cloi "Hoewon"

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cloi "Hoewon"

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 18 Ebr 2006 1:28 am

Mae'n gas gen i'r term Hoyw am gyfunrywiaeth

Roedd Alun Mabon yn ei ddydd
Yn fachgen cryf a hoyw


Prin ei fod o'n gwrywgydiwr!

Ta Waeth! Ydy o'n iawn fod trafodaeth wedi ei gloi ar y Maes gan nad yw'r cymedrolwr yn hoff o farn y sawl sy'n anghytuno a hi?

Yr wyf yn anghytuno a barn y rhai nad ydynt yn cytuno a fy marn grefyddol ac yn fodlon dadlau yn groch yn eu herbyn. Ond yr wyf yn parchu eu hawl i fynegi eu barn.

Bu crefyddwyr, ie crefyddwyr, yn fodlon marw am yr hawl i ddatgan barn a chredu'r hyn nad oedd yn dderbyniol i'r awdurdodau. Bu'r Sant John Roberts, Pabydd, marw am yr hawl i fynegi ei farn Babyddol mewn gwlad Brotestannaidd. Cafodd John Penri ei grogi, ei diberfeddu a'i chwarteru er mwyn mynnu hawl i fynegi barn a oedd yn anghydffurfiol a barn yr awdurdodau.

Aberth y bobl yma, a
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan krustysnaks » Maw 18 Ebr 2006 9:10 am

*dylyfu g
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Barbarella » Maw 18 Ebr 2006 9:26 am

Mae'r edefyn dan glo oherwydd doedd yr ymatebion ddim yn berthnasol i bwnc y drafodaeth.

Seiad Criw Duw yw'r lle addas i drafod agweddau crefyddol at bobl hoyw.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan nicdafis » Maw 18 Ebr 2006 10:35 am

I ateb cwestiwn HRF: nag oes, does gennych chi "ryddid barn" ar y Maes Mawr Agored os ydy'ch barn yn sarhaus - fel oedd barn sawl un o "Gristnogion" y maes yn yr edefyn dan sylw. Heb fodolaeth Criw Duw byddai lot o bobl yn colli eu rhyddid barn yn gyfan gwbl: y Cristnogion am fynegi pethau sy'n sarhaus i bobl sy ddim yn rhannu eu ffydd, a'r "wrth-Gristnogion" am fynegi eu barn sy'n sarhaus i'r grwp cyntaf. Dw i wedi dysgu, o hir brofiad, nad yw'n bosibl i gael trafodaeth ar unrhyw bwnc "crefyddol" ar maes-e sy ddim yn bennu mewn traed moch. Ac fel dw i wedi esbonio mwy o weithiau nag ydw i'n gallu cyfri, nad yw'n bosibl, yn ymarfer, i gymedroli yn y fath o edeifion. Does dim digon o oriau yn y dydd.

Mae'n drist iawn bod angen cadw trafodiaethau "crefyddol" eu naws tu
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Ray Diota » Maw 18 Ebr 2006 11:04 am

Ma raid i fi weud, am unwaith wy'n cytuno a'r penderfyniad i gloi'r edefyn blaenorol. Torwyd ar draws edefyn digon diniwed yn gofyn am leoliadau hoyw Caerdydd gan farn hunanbwysig 'crefyddwr'. Rhydd i bawb ei farn - ie, ond piti na fydde'r 'crefyddwr' ma wedu cael digon o barch i adel rhywun i drafod 'lleoliadau hoyw' heb ymyryd.

Pe bai'r Hen Rech wedi dechrau edefyn ar gapeli/eglwysi Cymru, hoffwn feddwl y bydden i di gadel i'r drafodaeth fynd heb orfod dweud fy marn bod crefydd yn llond trol o gachu.

Sai'n bwff nac yn god sgwodyr, ond ma hawl da'r cynta i neud be bynnag da'i din, a hawl da'r ail i ddarllen y beibil.

Na'i gyd dwi moyn yw'r hawl i gymryd y piss! :P
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Hen Rech Flin » Mer 19 Ebr 2006 11:47 pm

krustysnaks a ddywedodd:*dylyfu g
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Ray Diota » Mer 19 Ebr 2006 11:55 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:
krustysnaks a ddywedodd:*dylyfu g
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan tafod_bach » Iau 20 Ebr 2006 1:40 am

wy'n gwybod ei bod hi'n hwyr ond *wir*, mae dy sylwadau di, HRF, yn ddifrifol o anaeddfed a thros-y-linell (cei watwar faint fynni di ar fy nghymraeg i, os neith hynny wahaniaeth i dy hyder, gyda llaw.). allai ddim credu bod rhywun sy'n meddu ar fymryn o sens yn gweld lle i ymosod yn bersonol ar aelodau am fynnu s
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan ceribethlem » Iau 20 Ebr 2006 9:47 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Cyn i Krustuysnaks dylifo ei
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Mr Gasyth » Iau 20 Ebr 2006 10:38 am

Rhagfarn ydi rhagfarn, beth bynnag fo'r cyfiawnhad honedig drosto. Dwi'n siwr na fyddai sylwadau gan aelod o gwlt neu grefydd (be ydi'r gwahaniaeth gyda llaw?) sydd yn honi fod Iddewon/duon/merched yn ffiaidd yn cael eu goddef ar y maes felly pam dylai sylwadau gwrth-hoywon sy'n cael eu cyfiawnhau ar sail grefyddol?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai