Cloi "Hoewon"

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan krustysnaks » Sad 22 Ebr 2006 11:02 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Wyt ti hefyd yn credu fod gan Gristnogion ragfarn yn erbyn twyllwyr oherwydd bod e'n dysgu yn y beibl fod twyllo yn anghywir?

Mae twyllwr yn dewis - natur ydy bod yn hoyw.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 22 Ebr 2006 11:28 am

krustysnaks a ddywedodd:Mae twyllwr yn dewis - natur ydy bod yn hoyw.


o leia dy ni'n cytuno mae natur ydy bod yn hoyw. Ond mae Cristnogion yn credu fod yna natur o fewn pawb, hyd yn oed natur i dwyllo. Mae'r ysbryd wedi ein arfogi i ymladd yn erbyn natur y twyllwr i dwyllo. Er mor an-naturiol yw hynny i'r pechadur wneud :winc: Hyd yn oed os na dwyllith y twyllwr (yn yr un ffordd os na gydith y gwrwgydiwr) mae'r natur dal oddi fewn iddo yn dydy?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Sad 22 Ebr 2006 3:18 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Wyt ti hefyd yn credu fod gan Gristnogion ragfarn yn erbyn twyllwyr oherwydd bod e'n dysgu yn y beibl fod twyllo yn anghywir?


Na, achos mae posib dod i'r casgliad fod twyllo yn anghywir heb ddarllen y beibl oherwydd mae twyllwyr yn elwa ar draul pobl eraill drwy eu anonestrwydd. Mae twyllo felly yn brifo/niweidio pobl eraill. Tydi gwrywgydiaeth ddim felly dim ond ar sail rhagfarn y gellid dod i'r casgliad ei fod yn anghywir.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Mr Gasyth » Sad 22 Ebr 2006 3:22 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Nid wyf wedi mynegi rhagfarn yn yr edefyn yma nac yn edefyn sydd wedi ei gloi. Yr wyf wedi mynegi barn yr wyf wedi dod ati trwy ddwys ystyriaeth.


Beth am rannu y dwys ystyriaethau yma efo ni ta, er mwyn i ni ddeall yn well sut wyt ti wedi cyrraedd dy farn resymol di-ragfarn.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Os ydy rhagfarn homffobig yn wrthun ac yn annerbyniol ar y Maes, oni ddylai rhagfarn christoffobig, megis ffobia Mr Gasyth, bod yr un mor annerbyniol?


Does gen i ddim ffobia Cristoffobig, tydw i erioed wedi deud fod Cristnogaeth per se yn anhywir neu'n bechadurus. Ond rwy'n gwrthwynebu Cristnogaeth ble mae'n cael effaith andwyol ar fywydau pobl di-niwed, a mae lledaenu rhagfarn gwrth-hoywon yn enghraifft berffaith o hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan tafod_bach » Sad 22 Ebr 2006 3:32 pm

ymddiheurions am y non-cyfranniad lan fyna :wps: be o'n geisio dweud - rili - oedd: "bydde cylch hoyw yn syniad da" a wedyn falle j
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan nicdafis » Sad 22 Ebr 2006 4:14 pm

Plis, da chi, peidiwch
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 22 Ebr 2006 6:14 pm

nicdafis a ddywedodd:Rhys Llwyd: dydy hollti blew ynglyn
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dylan » Sad 22 Ebr 2006 8:34 pm

na, ti dal ddim yn deall

nid "safbwynt seciwlar" ideolegol, athronyddol, sydd yn cael ei arddangos fan hyn. Paid a cheisio dweud mai mater o ffydd vs ffydd ydi hwn. Yn hytrach, mae Maes-e wedi mabwysiadu sustem niwtral, anghrefyddol, yn union er mwyn osgoi trafodaethau fel hyn.

dechrau a diwedd y mater ydi bod cwestiwn cwbl ddiniwed wedi cael ei droi yn ddadl ddwys ac ymosodol lle nad oedd hynny'n addas o gwbl. Does dim gwaharddiad o gwbl ar drafodaethau o'r fath, ond mae llefydd priodol ac amhriodol i'w cynnal. Dyna'r cyfan. Hyd y gwelaf i beth bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 22 Ebr 2006 9:57 pm

Dylan a ddywedodd:na, ti dal ddim yn deall

nid "safbwynt seciwlar" ideolegol, athronyddol, sydd yn cael ei arddangos fan hyn. Paid a cheisio dweud mai mater o ffydd vs ffydd ydi hwn. Yn hytrach, mae Maes-e wedi mabwysiadu sustem niwtral, anghrefyddol, yn union er mwyn osgoi trafodaethau fel hyn.


Dwi'n cytuno dros y rheswm y cloewyd yr edefyn. Ond sut all sustem niwtral fod hefyd yn anghrefyddol? Os yw yn anghrefyddol nid yw hi'n niwtral mae hi yn erbyn crefydd.

Yn yr un ffordd a mae penwisgiau mwslemaidd wedi eu banio o ysgolion seciwlar Ffrainc - nid gweithred niwtral mo hynny OND gweithred anghrefyddol.

Ond parthed yr edefyn am hoywon dwi'n cydnabod nad dyna oedd y lle i godi trafodaeth am safbwynt Beiblaidd ar Wrwgydiaeth. Roedd yn edefyn yn trafod ymarferoldeb bywyd cymdeithasol bod yn hoyw NID yn trafod yr egwyddorion tu ol y peth fel dwi'n deall (oherwydd, er yn un o 'Gristnogion' y maes nesi ddim hyd yn oed ddarllen yr edefyn heb son am gyfrannu)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Manag Werdd » Sad 22 Ebr 2006 9:59 pm

Ti'n hollti blew go iawn am y busnes 'seciwlar' ma Rhys! Ma'n gneud sens i fi bod Maes E yn wefan ddi-grefydd.
Mae'r Faneg wastod yn agos...Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Manag Werdd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 307
Ymunwyd: Sul 15 Mai 2005 4:17 pm
Lleoliad: Ffatri Menyg (Gwyrdd)

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai