Dyfynu tu allan i'r maes

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dyfynu tu allan i'r maes

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Llun 08 Mai 2006 5:07 pm

cwestiwn bach, dwi wrthi'n sgwennu stori fer ar gyfer cylchgrawn dawns werin ac isho ei selio ar sgwrs mewn safwe tebyg i'r maes. oni jysd yn wyndor oes na reol ne wbath yn deud na allai ddyfynu yn uniongyrchol o'r maes. wedi lled-ddrafftio'r stori wrth ddyfeisio negeseuon off top fy mhen ond be os faswn i'n dyfynu?!
Diolch.
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan huwwaters » Llun 08 Mai 2006 5:16 pm

Dwi'n meddwl byse fo'n syniad, i gadw unigolion yn hapus, i ofyn am eu caniatad. Dwi'n siwr byse'r mwyafrif o bobl yn ddiddig iawn dy fod wedi ystyried gofyn/defnyddio nhw fel rhan o dy waith.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Macsen » Llun 08 Mai 2006 5:54 pm

Mae'n debyg mae Nic sydd 'biau' popeth sy'n cael ei sgwennu ar y Maes, ond fo sy'n gorfod cymyd y bai am y cwbwl hefyd!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Huw Psych » Llun 08 Mai 2006 6:18 pm

Mae'n debyg gan ei fod yn wefan, sydd ar gael i'r cyhoedd i'w weld, mae hynny yn ei wneud o'n gyhoeddus yn barod...ar wahan i'r hyn sydd yn y cylchoedd.

Mi fydda ti'n saffach yn gofyn i'r 'cradur ti'n ei ddyfynu, neu yn ei anonymysio fo.


Syniad i chdi...os w ti'n dyfynu pobl o'r maes, beth am gyhoeddi'r stori ar y maes yn ogystal??
Gobeithio nad w ti yn fy nyfynnu i!! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Barbarella » Llun 08 Mai 2006 6:32 pm

Macsen a ddywedodd:Mae'n debyg mae Nic sydd 'biau' popeth sy'n cael ei sgwennu ar y Maes, ond fo sy'n gorfod cymyd y bai am y cwbwl hefyd!

O ran hawlfraint, na, nid Nic sydd biau'r cyfraniadau. Mae'r unigolion yn dal hawlfraint yn eu negeseuon eu hunain. Ond o dan y gyfraith, mae Nic yn gyhoeddwr o fath, ac felly'n gyfrifol petai sylwadau enllibus ayyb. Mae awdur y neges yn gyfrifol hefyd, wrth gwrs, ond mewn achos llys byddai'n haws mynd ar
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan nicdafis » Llun 08 Mai 2006 8:35 pm

Mae wastad yn syniad i gysylltu
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 09 Mai 2006 9:00 am

Dwi wedi dyfynu sylwadau gan un ffigwr gwleidyddol adnabyddus sy'n defnyddio ei enw go-iawn mewn traethawd am ei syniadaeth wleidyddol ac fe ges i ddosbarth cyntaf uchel amdano - i ddweud y gwir fy marc ucha mewn 3 blynedd o radd!

O ran gofyn caniatad, wrth gwrs ddim, fel academydd fasw ni ddim yn gofyn am ganiatad rhywyn fel dyweder Brooks i ddyfynu yr hyn mae o'n dweud yn Barn neu yn y Western Mail felly pam gofyn ei ganiatad i'w ddyfynu o'r hyn mae o di deud yn gyhoeddus ar y we.

Wrth gwrs, fel mae Nic yn nodi isod mae na wahaniaeth rhwng gofyn caniatad a troednodi yn does. Lle fasw ni ddim yn gofyn caniatad Hitler i ddyfynu allan o Main Kampf fasa rhaid i mi droednodi yn dweud mae fe ddywedodd yr hyn wedodd e a lle ges i y dyfyniad ohono.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Maw 09 Mai 2006 6:52 pm

hmmm, diolch. gan mod i di sgwennu rhanfwya o'r thing ma'n barod (ac i gyd yn ddychmygol) dwi'm yn meddwl fydd yr angen yn codi - ar hyn o bryd. mi gododd yn bwynt diddorol beth bynnag, dwi'n meddwl.
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron