Os welwch chi aelodau newydd sy'n wneud pethau twp, aelodnewyddaidd, cofiwch ddefnyddio'r botwm 'adrodd' i dynnu sylw cymedrolwr at y broblem. Peidiwch, da chi, trial datrys y broblem gan beilio i mewn i'r edefyn fel Chuck Norris ar gefn tarw rodeo. Mae hyn ond yn creu mwy o waith i'r cymedrolwyr, ac yn profi nad ydych chi wedi darllen y canllawiau, chwaith.
Diolch!