Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Maw 23 Mai 2006 3:49 pm
gan Ioan_Gwil
sibrydion o gwmpas fod dewi am ail-ymuno o dan e-bost ag enw defnyddiwr newydd.

byddwch yn wyliadwrus i weld pa fasg mae'n cuddio tu ol!

PostioPostiwyd: Maw 23 Mai 2006 3:49 pm
gan Ari Brenin Cymru
Ari Brenin Cymru a ddywedodd:21/11/05-21/05/06

Heddwch iw Lwch.


Rhyfadd ta be, 666 neges mewn union 6 mis. Mae'n rhaid na mab y diafol oedd y person yma.

PostioPostiwyd: Maw 23 Mai 2006 7:21 pm
gan Tegwared ap Seion
Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Mae'n rhaid rhoi clod iddo am fod y postiwr prysuraf mewn un mis gan bostio mwy na Eusebio a Tegwared ap Seion. Go dda.


Shyryp iw :winc:

sibrydion o gwmpas fod dewi am ail-ymuno o dan e-bost ag enw defnyddiwr newydd.

byddwch yn wyliadwrus i weld pa fasg mae'n cuddio tu ol!


:rolio: pen bach.

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 12:23 pm
gan Mici
Swn i gallu spotio fo yn syth, dwi'n nabod ei M.O fo.

Dwin meddwl fydd o nol mewn 13 diwrnod :crechwen: :crechwen:

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 2:30 pm
gan HBK25
Dwi'm am rhagweld pryd fydd o nol, gan nad oes gen i :crechwen: crystal balls. Beth bynnag, mae neis clywed fod rhywun yn gwneud sylwadau mwy diflas a di-bwynt na hyd yn oed fi. :crechwen: :winc:

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 2:40 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Mici a ddywedodd:Dwin meddwl fydd o nol mewn 13 diwrnod :crechwen: :crechwen:

Chweched o'r Chweched o'r Chweched.
itha araf, 'mond nawr fi di gwitho mas be oedd y dyddiad yn 13 d'wornode :wps: .

Swno'n itha iawn i fi, os ydy'r apocalypse dim yn digwydd cynddo fe gal siawns i cofrestru eto. :crechwen:

Faint o bobl sy di gal i wir wahardd o'r Maes yn y gorffenol de? W'th gwrs stymblws i dros y lle ma yn weddol hwyr. Netho'n nhw r'un peth a'r annwyl Wir-Frenin de?

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 4:01 pm
gan nicdafis
Does gen i ddim problem gyda Dewi ail-ymuno, ond mae e wedi colli'r cyfrif yna.

Falle byddai'n syniad iddo i drial tamaid bach yn galetach i beidio piso pawb off y tro nesa bydd yn ymuno.

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 4:46 pm
gan huwwaters
nicdafis a ddywedodd:Does gen i ddim problem gyda Dewi ail-ymuno, ond mae e wedi colli'r cyfrif yna.

Falle byddai'n syniad iddo i drial tamaid bach yn galetach i beidio piso pawb off y tro nesa bydd yn ymuno.


On i'n meddwl eich bod wedi deud "[g]wahardd am byth" yn yr un modd mae Martin Llewelyn Williams wedi ei wahardd am byth?

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 8:04 pm
gan caws_llyffant
Mae Nic yn sôn am negeuseon di-werth .

Dwi'n gweld y negeseuon Dewi-Wir Frennin Cymru fel ran o'r traddodiad Samuel Beckett . Waiting for Godot .


Da chi ddim yn banio Dewi-Wir Frennin Cymru o gwbwl . Dach chi'n trio banio'r syniad ' we are born astride the grave ' . Dach chi'n trio banio anobaith .

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 9:16 pm
gan Ioan_Gwil
caws_llyffant a ddywedodd: Dewi-Wir Frennin Cymru


gai ofyn, pam y ddau 'n' yn ganol brenin bob tro?

rwan fod y brenin wedi marw, pwy sydd am gymeryd ei le? dwin gweld y maes yn fwy diflas heb yr hen goes


hyd yn oed os oedd ei negeseuon yn ddi-bwrpas a plentynaidd ar y naw weithiau, mi roedd yn ysbaid o awyr iach, ag yn balancio allan yr holl wits sydd gan aelodau eraill


Heddwch i'th lwch Frenin Cymru