Mae'n amhosibl ymuno â maes-e.com heb gyfeiriad dilys, ond weithiau bydd yr ebost ddefnyddioch chi i ymuno yn marw. Os bydd hyn yn digwydd, bob tro mae'r sustem yn trial anfon neges ebost atoch (i ddweud dy fod di wedi derbyn neges breifat newydd, neu ymateb mewn trafodaeth, neu beth bynnag) bydd y neges honno yn bownsio ata i.
Felly plîs wnewch yn siwr bod yr ebost yn eich proffeil yn gweithio, ac os na, ei ddiweddaru.
Diolch yn fawr.
Nic