Tudalen 1 o 1

Ydy'ch ebost yn gweithio?

PostioPostiwyd: Maw 23 Mai 2006 1:24 pm
gan nicdafis
Mae'n amhosibl ymuno â maes-e.com heb gyfeiriad dilys, ond weithiau bydd yr ebost ddefnyddioch chi i ymuno yn marw. Os bydd hyn yn digwydd, bob tro mae'r sustem yn trial anfon neges ebost atoch (i ddweud dy fod di wedi derbyn neges breifat newydd, neu ymateb mewn trafodaeth, neu beth bynnag) bydd y neges honno yn bownsio ata i.

Felly plîs wnewch yn siwr bod yr ebost yn eich proffeil yn gweithio, ac os na, ei ddiweddaru.

Diolch yn fawr.

Nic

PostioPostiwyd: Sad 03 Meh 2006 8:48 am
gan Mabon.Llyr
Dwi methu a ffindio'r ateb i hyn unrhywle felly....

Sut mae anfon neges brefat?
Ar ol ysgrifennu neges a gwasgu 'anfon' mae'n mynd yn syth ir 'blwch anfon', ond byth yn ymddangos yn y blwch 'gyrrwyd'.

Pam ma hyn yn diwgwydd? Yw fy neges wedi'w anfon neu beidio?


Diolch o flaen llaw.

PostioPostiwyd: Sad 03 Meh 2006 8:50 am
gan Tegwared ap Seion
Mae'n mynd i'r blwch "gyrrwyd" pan mae'r derbynnydd wedi derbyn.

PostioPostiwyd: Sad 03 Meh 2006 9:04 am
gan Mabon.Llyr
Nawr mae hynny'n egluro popeth, diolch yn fawr. :D

PostioPostiwyd: Sad 03 Meh 2006 9:29 am
gan nicdafis
Tra bod y neges yn y blwch gyrrwyd, cei di ei golygu o hyd.