Tudalen 1 o 1

Anwybyddu maeswyr o'n dewis?

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 4:05 pm
gan GT
A fyddai hyn yn ateb i rhai o'r problemau sy'n codi ar y maes o bryd i'w gilydd?

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 4:24 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Falle bydd e'n syniad. Siwd ma'n dod mlan ar y wefan na?

Sai'n daeall y sustem yn iawn efallai, ond tybio sefyllfa fel hon - ma'r bachan ma lot fowr yn anwybuddu, gyda rhwbeth difyr i ddweud, a wetyn ma cyfrannwr sy dim yn anywbuddu e yn ymateb a ma'r edefyn yn datblygu o fanna. Bydde chi methu gwel beth oedd y neges wreiddiol ganddo'r anwybudd-ee?

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 4:30 pm
gan Jakous
Ffycinghell ma'r wefan na yn neud fi'n sal.

Ma nhw mor snobish, ac yn blydi pretentious.

Eniwe, ddim yn syniad da i bawb allu neud, dim ond Nic.

Re: Anwybyddu maeswyr o'n dewis?

PostioPostiwyd: Iau 25 Mai 2006 8:42 am
gan Mr Gasyth
GT a ddywedodd:A fyddai hyn yn ateb i rhai o'r problemau sy'n codi ar y maes o bryd i'w gilydd?


Dwi'm yn meddwl, bydd jest yn gwneud pethau yn fleriach.

PostioPostiwyd: Iau 25 Mai 2006 3:20 pm
gan nicdafis
Na, ddim yn hoffi'r syniad. Byddai'n achosi mwy o broblemau nag mae'n datrys. Bydd yr un pwyntiau yn cael eu wneud yn yr un edeifion, gan bobl sy'n anwybyddu eu hunain, a fydd yn drysu pawb arall.

PostioPostiwyd: Iau 25 Mai 2006 3:35 pm
gan Barbarella
Er gwybodaeth, mae'r fersiwn nesa o phpBB yn caniatau hyn (yn ogystal รข datrys twymo byd-eang).

Ond dwi'n cytuno efo Nic, mae'n ddryslyd i'r darllenwyr, ac yn achosi mwy o waith i'r cymedrolwyr/gweinyddywr (a chofiwch, fyddan nhw ddim yn gallu anwybyddu negeseuon, felly dio ddim gwerth iddyn nhw beth bynnag).

PostioPostiwyd: Gwe 02 Meh 2006 6:37 am
gan Hen Rech Flin
Rwy'n ceisio dychmygu edefyn yn yr adran wleidyddol lle rwyf wedi gwahardd GT, ond yn parhau i weld llythyrau'r Gath Ddu. :syniad:

Na! Syniad gwirion! :crio: