Tudalen 1 o 2

Cysylltiadau

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 11:01 am
gan Huw Psych
Mr dafis...bob tro yr yda chi'n rhoi linc mewn neges mae o'n agor y linc yn yr un ffenestr sydd yn golygu fy mod yn colli unrhyw negeseuon newydd. Dwi ddim yn gwbo os ma chi neu fi ydi o, ond os gwelwch yn dda ydi hi'n bosibl gneud pob linc fel eu bod nhw'n agor mewn ffenestr newydd?

Y neges yma sydd gen i o dan olwg. Diolch

Re: Cysylltiadau

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 11:14 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Huw Psych a ddywedodd:Mr dafis...bob tro yr yda chi'n rhoi linc mewn neges mae o'n agor y linc yn yr un ffenestr sydd yn golygu fy mod yn colli unrhyw negeseuon newydd. Dwi ddim yn gwbo os ma chi neu fi ydi o, ond os gwelwch yn dda ydi hi'n bosibl gneud pob linc fel eu bod nhw'n agor mewn ffenestr newydd?

Y neges yma sydd gen i o dan olwg. Diolch


Pam ddim clicio ar 'open link in new window' neu glicio 'nôl' ar ôl mynd i'r ddolen te?

Re: Cysylltiadau

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 11:48 am
gan Barbarella
Huw Psych a ddywedodd:os gwelwch yn dda ydi hi'n bosibl gneud pob linc fel eu bod nhw'n agor mewn ffenestr newydd?


Na, oherwydd mae gwneud hyn yn gwylltio pobl (fel fi) sy'n defnyddio porwyr gyda thabiau (fel Firefox a Safari). :P

Os wyt ti'n defnyddio Internet Explorer, ac eisiau gorfodi linc i agor mewn ffenest newydd, gwasga Shifft tra'n clicio'r ddolen.

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 11:52 am
gan Huw Psych
Diolch

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 12:39 pm
gan Tegwared ap Seion
Ma nhw'n agor mewn tab newydd i fi bob tro...dwi'n defnyddio firefox. Tria fo ma'n dda ;)

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 12:49 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Dwi ddim yn defynddio Internet Explorer rhacor, ond fi'n siwr pan o ni yn oedd lincs yn agor mewn ffenest newydd pob tro?
Weud hynny, falle rhyw dewisiad ar fy nghyfrifiadur i oedd e, ond sai'n cofio neud dim byd.

Nawr fi'n defynddio Firefox fi jesd yn gwasgu y botwm canol (yr olwyn sgrol) i agor tab newydd mewn r'un ffenest.

Braidd off pwynt, ond o ni erioed di trial Firefox cyn wythnos dwetha, a ga fi weud dychwela'i byth i Internet Explorer. Hawsach, gloiach a llai clogyrnaidd.

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 3:28 pm
gan nicdafis
Fel mae Babs yn dweud, mae'n digon hawdd i orfodi eich porwr agor dolenni mewn ffenstri/tabiau newydd. Mae'n well 'da fi peidio defnyddio "target=new" mewn dolenni-heiper, gan fod hyn yn tynnu'r dewis o ddwylo y defnyddiwr.

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 3:44 pm
gan Mr Gasyth
nicdafis a ddywedodd:Fel mae Babs yn dweud, mae'n digon hawdd i orfodi eich porwr agor dolenni mewn ffenstri/tabiau newydd. Mae'n well 'da fi peidio defnyddio "target=new" mewn dolenni-heiper, gan fod hyn yn tynnu'r dewis o ddwylo y defnyddiwr.


Efallai wir, ond os ydw i'n rhoi dolen ar fy mlog mi fyddai wastad yn gwneud hyn achos mae gen i ofn os bydd yn agor yn yr un ffenest yna efallai bydd pobl yn anghofio ble roedden nhw a ddim yn gorffen darllen y blog :wps:

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 4:16 pm
gan nicdafis
Dw i'n jyst cymryd o ganitaol bod pobl yn gwybod sut i agor lincs mewn ffenestri newydd gan law.

Ai dyma pam does neb yn aros am fwy na hanner munud ar Morfablog? Mae'n esbonio lot.

PostioPostiwyd: Maw 13 Meh 2006 5:03 pm
gan Mali
nicdafis a ddywedodd:
Ai dyma pam does neb yn aros am fwy na hanner munud ar Morfablog? Mae'n esbonio lot.


Do , dwi di damio nifer o weithiau wrth gau linc......a chau Morfablog run pryd. :wps: :lol: