Sensoriaeth

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sensoriaeth

Postiogan Robin Pigwyn » Sul 02 Gor 2006 1:30 pm

Pam fod yna gymaint o sensoriaeth ar Maes E?
Bore ma, mae Nic Dafis wedi cloi trafodaeth am gefnogi timau pel-droed Lloegr am ddim rheswm gwell na fod "maes-e wedi newid"! :rolio:

Dwi'n cael y teimlad fod rhai o gymedrolwyr y fforwm yma'n gontrol ffrics llwyr.

Rhowch fathodyn i fwnci...
Rhithffurf defnyddiwr
Robin Pigwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Mer 18 Medi 2002 8:48 pm
Lleoliad: Gwynedd

Postiogan nicdafis » Sul 02 Gor 2006 2:47 pm

Iesu ffyc, beth yw dy broblem?

Ti ddim wedi postio dim byd yma ers 3 blwyddyn a hanner, ond mewn diwrnod ti wedi llwyddo denu mwy o adroddiadau negyddol na neb arall mewn mis.

Os ti ddim yn licio'r wefan, paid â'i defnyddio.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Robin Pigwyn » Sul 02 Gor 2006 6:09 pm

nicdafis a ddywedodd:Iesu ffyc, beth yw dy broblem?

Ti ddim wedi postio dim byd yma ers 3 blwyddyn a hanner, ond mewn diwrnod ti wedi llwyddo denu mwy o adroddiadau negyddol na neb arall mewn mis.

Os ti ddim yn licio'r wefan, paid â'i defnyddio.


O be fedra i weld, mae'n bosib rhoi adroddiad negyddol am:

- neges sydd ddim yn ffitio i unrhyw gategori
- neges sydd ddim yn berthnasol i bwnc y drafodaeth
- neges sydd yn hysbysebu rhywbeth masnachol
- neges sydd yn cynnwys ymosodiad personol
- neges sydd yn cychwyn trafodaeth sy'n bodoli'n barod

Pa run o'r rheolau yma ydw i wedi ei dorri?

Ymddiheuriadau mawr am beidio defnyddio eich fforwm yn ystod y blynyddoedd diweddar! Mae'n ddrwg gen i am unrhyw boendod a achoswyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Robin Pigwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Mer 18 Medi 2002 8:48 pm
Lleoliad: Gwynedd


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron